Endaf Edwards: Aberystwyth Rheidol

10.png

Cefndir

  • Aelod gweithgar o Gyngor Tref Aberystwyth ac yn cynrychioli’r Cyngor ar gymdeithasau lleol
  • Aelod ac Ymddiriedolwr Capel Seion, Stryd y Popty, Aberystwyth
  • Deilydd tocyn tymor gyda Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth
  • Swyddog Gweinyddol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Rwyf yn trefnu sesiynau casglu sbwriel yn ward Rheidol

Pam pleidleisio dros Endaf?

"Rwyf wedi mwynhau cynrychioli trigolion ward Rheidol ers cael fy ethol yn 2017 a gweithio i chi. Rwyf wedi mwynhau’n arbennig cael y cyfle i’ch helpu a bod yn glust i wrando.  Mae cynrychioli chi yn fraint ac yn anrhydedd, a credaf fy mod wedi dod i adnabod nifer ohonoch.  Credaf fy mod wedi cyflawni llawer.  Serch hynny, mae yna lawer eto i’w wneud a hoffwn gael y cyfle i barhau gyda’r gwaith yma.

Teimlaf nad yw’r Cyngor Sir presennol yn rhoi ystyriaeth briodol i faterion cynllunio yn y ward ac Aberystwyth yn ehangach.  Rhaid i unrhyw ddatblygiadau yn y ward fod o fudd i’r bobl leol.  Os caf fy ethol, byddaf yn parhau i gynrychioli barn y trigolion lleol.

Gofynnaf felly, am eich pleidlais ar Fai’r 5ed, er mwyn cael cynrychiolydd a fydd yn sefyll dros bawb yn ward Aberystwyth Rheidol."

Blaenoriaethau Endaf

  • Gweithio i wella’r sefyllfa sbwriel
  • Parcio addas i breswylwyr lleol
  • Sicrhau mesurau pellach i arafu traffig yn Nhrefechan
  • Taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Gweithio i gynyddu pwysigrwydd rhan uchaf y Stryd Fawr i Aberystwyth
  • Gweithio i wella tlodi a phroblemau cysylltiedig yn y ward
  • Gweithio i wella symudedd defnyddwyr sgwter a chadair olwyn o fewn y ward

Pethau mae Endaf eisoes wedi'u cyflawni yn y ward

  • Sicrhau adnewyddu Pont yr Odyn
  • Sicrhau llinellau melyn dwbl yn y fynedfa i’r Marina (roedd angen brwydro am 4 mlynedd i sicrhau hyn)
  • Sicrhau arwyddion newydd i’r Harbwr
  • Cynyddu nifer y biniau sbwriel ar strydoedd y ward
  • Sicrhau llinellau melyn dwbl i wella diogelwch ffyrdd y ward
  • Cynrychioli trigolion pan drafodir ceisiadau dadleuol gan y Cyngor (gofynnaf i’r trigolion am eu barn cyn y cyfarfod Cyngor)
  • Gweithio i wella’r broblem ‘campervans’ ger yr Harbwr

 

Manylion cyswllt
[email protected]
01970 612394
07968 150969

Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgeiswyr 2022-01-26 18:03:03 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.