Mae Elin Jones AC wedi croesawu nyrsys o ardal Ceredigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i lansio ymgyrch newydd Coleg Brenhinol Nyrsio, ‘Nyrsys yn arwain – Llunio Gofal.’
Mae ymgyrch CBN yn dynodi ardaloedd allweddol o ddatblygiad ar gyfer polisi iechyd yng Nghymru ac yn anelu i sicrhau bod ymrwymiadau osodwyd yn Neddf Lefelau Staffio Nyrsys (Cymru), a ddaeth i rym yn gynharach eleni, yn cael eu gweithredu gyda buddsoddiad ernym hyn.
Dywedodd Elin Jones AC:
“Rown i’n falch cael mynychu y lansiad hwn ac i barhau i gefnogi nyrsys yng Ngheredigion a ledled Cymru.
“Mae ymgyrch y CBN yn amlygu prinder y nyrsys ardal yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau y gweithlu nyrsio drwy fuddsoddi mewn addysg i nyrsys.
“Rwy’n cytuno’n llwyr â’r coleg wrth iddynt ddweud bod angen rhifau digonol o nyrsys gyda’r sgiliau cywir er mwyn cynnal gofal iechyd o radd orau yn y byd yng Nghymru ac mae angen iddynt gael eu cefnogi gan bolisiau cywir yn ein cymunedau.”
Wrth lansio’r ymgyrch dywedodd Tina Donnelly CBE, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsio yng Nghymru:
“Mae’r ymgyrch yn pwysleisio rhai o brif bryderon ein haelodau gan gynnwys yr angen i fuddsoddi mewn addysg nyrsio a phrinder brawychys nyrsys ardal.
“Rydym hefyd wedi defnyddio’r ymgyrch i arddangos y gofal gwych a roddir gan rai o’n nyrsys gorau yma yng Nghymru.
Dywedodd, “Bu pasio’r Ddeddf Lefelau Staffio Nyrsio (Cymru) yn gyrhaeddiad o bwys ond mae angen i ni yn awr ei gweithredu. “Bydd buddsoddi yn y galwedigaeth nyrsio yn gwella’n uniongyrchol ansawdd gofal y claf.”