Mae Elin Jones yn galw am waith pellach, wrth i swydd Nyrs Arbenigol Gofal Parkinson yn dal heb ei llenwi ym Mronglais
Mae Elin Jones AC wedi codi pryderon ynglŷn â’r gofal a’r driniaeth sydd ar gael i bobl sy’n dioddef o glefyd Parkinson ar draws Ceredigion. Yn ddiweddar cyfarfu Elin gyda grŵp Parkinson Aberystwyth i drafod pryderon pobl sy’n byw gyda Parkinson ynghyd â’u teuluoedd.
Dywedodd Elin Jones:
“Rwy’n credu ei bod yn deg i ddweud nad yw gofal Parkinson yng Ngheredigion yn y sefyllfa orau i gefnogi y rhai hynny sydd ei angen. Yn dilyn ymddeoliad y Nyrs Parkinson mawr ei pharch a oedd wedi ei lleoli yn Ysbyty Bronglais, fe wnes gyfarfod yn ddiweddar gyda grŵp Parkinson Aberystwyth sy’n pryderu nad yw’r Bwrdd Iechyd wedi llwyddo i lenwi’r swydd.
“Mae gan Nyrsys Parkinson brofiad arbenigol, y sgiliau a’r wybodaeth i weithio gyda phobl sy’n byw gyda chlefyd Parkinson. Maent yn chwarae rhan allweddol mewn rhoi gofal arbenigol i bobl ynghyd â chyngor i deuluoedd.
“Mae’n hynod o bryderus ar hyn o bryd bod yna ddiffyg yn y ddarpariaeth i bobl yng Ngheredigon. Rwy’n deall bod y Bwrdd Iechyd wedi ceisio recriwtio i’r swydd, ond ar hyn o bryd fe ddeil heb ei llenwi.
“Rwy’ nawr yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda’r Bwrdd Iechyd i ddatblygu cynllun hirdymor ar gyfer gofal a chefnogaeth Parkinson yng Ngheredigion. Mae’n rhaid chwilio pob dull a modd, pa un a yw hynny yn gynorthwywyr meddygol, gweithio croes ffiniau neu helpu nyrsys eraill i ddatblygu sgiliau penodol angenrheidiol. Mae’r swydd yma yn llawer rhy bwysig i’w gadael yn wag, ac mae angen rhoi cynllun hir dymor yn ei le i osgoi diffyg darpariaeth yn y dyfodol.”
Dangos 1 ymateb