Elin Jones yn trafod y 'Clo Clec' a Cheredigion

IMG_0784.jpg
Rydym yn wynebu cyfnod heriol eto ac rwy’n ymwybodol fod rhai’n cwestiynu’r angen i Geredigion fod yn rhan o’r Clo Byr hwn. Rydw i wedi gofyn yr un cwestiwn i mi fy hun. A oedd hi’n rhesymol i gynnwys Ceredigion, o ystyried lefelau isel y feirws yma ac awydd busnesau i barhau i fasnachu?

 

Mae tri ffactor wedi dylanwadu arnaf:
1. Er bod lefel y clefyd yn parhau i fod yn gymharol isel yn y mwyafrif o siroedd gwledig, mae'r bwlch rhwng yr ystadegau mewn ardaloedd gwledig a threfol wedi lleihau dros y 10 diwrnod diwethaf. Mae ardaloedd gwledig yn adrodd am gynnydd yn nifer yr achosion bob dydd, er ei bod yn wir dweud bod y niferoedd yn achos Ceredigion ac Ynys Môn yn fach iawn.
2. Mae'r berthynas rhwng ysgolion a busnesau ar ffin Ceredigion yn astrus a byddai'n anodd rheoli clo llwyr ar ochr Sir Gaerfyrddin / Sir Benfro / Powys o'r ffin heb gloi ochr Ceredigion hefyd. Fodd bynnag, nid yw hyn, ynddo'i hun, yn rheswm digonol dros beidio â gweithredu polisïau cloi gwahanol ar yr un pryd.
3. Rwy’n cael fy mherswadio’n fwy gan yr angen i gefnogi ein hysbytai a'r GIG. Mae ein hysbytai yn y gorllewin yn gwasanaethu poblogaeth ehangach na Cheredigion yn unig. Maent yn fychan ac mae eu cyfleusterau Gofal Dwys (ICU) yn gyfyngedig iawn. Gall hyd yn oed ychydig o gleifion sâl iawn gyda coronafeirws lethu ein hysbytai gwledig, ac felly mae'n hollbwysig fod poblogaeth gyfan canol a gorllewin Cymru yn cefnogi'r ymdrech hon. Mae hyn yn cynnwys y Cardis. Mae’n rhaid torri pob cyswllt trosglwyddo posibl dros gyfnod y Clo Byr hwn.
Mae hyn ymhell o fod yn ddelfrydol a bydd barn pob un ohonom yn amrywio rhywfaint wrth inni roi pwysau gwahanol ar yr amrywiol ffactorau. Fodd bynnag, rydym unwaith eto yn y sefyllfa o orfod amddiffyn ein hysbytai rhag cael eu llethu gan gleifion coronafeirws ac ar yr un pryd ganiatáu iddynt allu trin cynifer o gleifion â phosibl – Covid a chyflyrau eraill. Yn ystod y pythefnos diwethaf, mae gan bob un o’n hysbytai yn ardal Hywel Dda gleifion Covid-19 yn y wardiau unwaith eto ac mae'r niferoedd yn cynyddu ar ôl cyfnod hir o fod yn rhydd o Covid. Mae yna ddatganiad newydd ei wneud am yr angen i ynysu cleifion covid ym Mronglais.
Yn olaf, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu pecyn cymorth i helpu llawer o fusnesau. Ni fydd pob busnes a gweithiwr yn cael sylw ar unwaith a byddaf yn pwyso’n daer i geisio sicrhau fod pob busnes yn derbyn cymorth ariannol oherwydd y Clo Byr. Rwy’n sylweddoli hefyd fod maint y gefnogaeth yn annigonol mewn llawer o achosion, a byddaf yn codi hyn hefyd. Unwaith y bydd y Clo Byr drosodd bydd raid inni i gyd ddyblu ein hymdrechion i gefnogi ein busnesau lleol yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig.
Mae un peth yn sicr, dim ond os ydym yn cadw at y rheoliadau ac yn torri'r ddolen drosglwyddo y bydd y Clo Byr llym hwn yn cael effaith ar ledaeniad y feirws. Disgwylir i’r mwyafrif ohonom aros gartref unwaith eto, er mwyn Ceredigion ac er mwyn Cymru.
Ac yn bwysicaf oll er mwyn ein GIG.
Cadwch yn iach, a chysylltwch os fedra i fod o unrhyw gymorth i chi.
Elin Jones AS

Dangos 1 ymateb

  • Matthew Jones
    published this page in Newyddion 2020-10-21 17:45:06 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.