Mae Elin Jones, AC Ceredigion, wedi ysgrifennu at brif weithredwr Ofcom yn galw am fynediad cyfartal i dechnolegau 5G yng Ngheredigion, ac ar draws gwledydd y DU.
Yn ddiweddar, mae Ofcom wedi cynnal ymgynghoriad ar argaeledd signal ffôn, lle mae'n bwriadu caniatáu mynediad anghyfartal i signal ffôn symudol ledled y DU. O dan y cynlluniau hyn byddai lleiafswm ar gyfer argaeledd signal rhwng pob gwlad yn y DU yn amrywio, gydag o leiaf 90% o argaeledd signal ffôn yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, o leiaf 74% o argaeledd signal yn yr Alban, ac o leiaf 83% o argaeledd signal yng Nghymru.
Yn ei llythyr i Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom, dywedodd Elin Jones AC:
'Fel Aelod Cynulliad sy’n cynrychioli etholaeth gyda’r signal ffôn a’r cyswllt band llydan ymysg y gwaethaf a’r arafaf yn y DU, rwy’n arbennig o bryderus am yr anghydraddoldeb mae Ofcom yn ei ganiatáu, ac a fydd yn gadael cymunedau fel y rhai rydw i yn eu cynrychioli mewn gwaeth sefyllfa.
'Mae cysylltedd ffôn a band eang yn yr ardaloedd gwledig o gwmpas trefi Ceredigion yn wael. Hyd yn oed ar ôl cyflwyniad diweddaraf band eang Llywodraeth Cymru, fe fydd oddeutu 20% o eiddo yng Ngheredigion heb fand eang cyflym.
'Mae Ceredigion yn gartref i ddwy brifysgol, ac mae iddi sail amaethyddol fawr iawn. Mae nifer o fusnesau amaethyddol yn dibynnu ar fynediad digidol ar gyfer gofynion taliadau. Ar gyfer y busnesau hyn, ac etholwyr ymhob cwr o Geredigion, byddai ehangu'r signal y gallai rhwydweithiau 5G eu darparu yn caniatáu etholwyr i gael mynediad i gysylltiadau ar lefel cyflymder uchel.
'Gyda dyfodiad technolegau sy’n cynnig dewis amgen i ffeibr sefydlog, a grantiau ariannu gan Lywodraeth Cymru i etholwyr i gael mynediad at y technolegau hyn, byddai argaeledd 5G i 90% o’m hetholwyr yn sicrhau nad yw byw mewn ardal wledig yn anfanteisiol mewn byd modern, digidol.
'Rwy’n croesawu trafodaeth bellach, ac mae gen i ddiddordeb arbennig mewn clywed a fydd y cynigion presennol, fel maent wedi eu gosod, yn cynnig dosbarthiad neilltuol er mwyn sicrhau na fydd lleoliadau gwledig yn cael eu gosod o dan anfantais gyda dyfodiad 5G, ond yn hytrach yn cael eu blaenoriaethu.'