Elin Jones yn tanlinellu pwysigrwydd cysylltedd digidol yng Ngheredigion a’r angen i barhau i wella'r rhwydwaith ffôn symudol

Untitled_design.png

Mae Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, wedi tanlinellu pa mor bwysig mae cysylltiad digidol wedi bod yng Ngheredigion yn ystod cyfyngiadau symud Coronafeirws.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Elin Jones AC gyfarfod ar-lein gyda Mobile UK, y corff Prydeinig sy’n cynrychioli y pedwar cwmni ffôn symudol mwyaf yn y DU - EE, Three, Vodafone ac O2.

Mae Mobile UK wedi sicrhau dros £1 biliwn o gymorth ar gyfer datblygu 4G ar draws cymunedau gwledig fel rhan o raglen o’r enw'r 'Shared Rural Network', a dywedodd Elin Jones pa mor bwysig oedd fi fod Ceredigion yn cael chwarae rhan allweddol yn hyn.

Yn ôl Mobile UK, bydd y cyd-rhwydwaith wledig yn gweld signal ffôn 4G y pedwar cyflenwr yn codi i isafswm o 80% yng Nghymru, i fyny o 58% yn 2020, a signal gan o leiaf un Cwmni Ffôn yn cynyddu i 95%.
Croesawodd Elin Jones y newyddion bod pedwar prif gwmni ffôn y DU yn cydweithio gan ddweud:

“Ni fu cymaint o angen erioed am signal ffôn dibynadwy nag yn ystod pandemig presennol. Gyda phob agwedd ar fywyd yn gorfod addasu i weithio o adre, a mynediad at Fand Eang heb fod cystal ac y dylai mewn nifer o rannau yng Ngheredigion, mae mwy a mwy o bobl yn dibynnu ar eu ffonau i gael mynediad at 3G a 4G.

“Mae gwaith ysgol, gweithio o adre a chymdeithasu yn dibynnu yn fwy nag erioed ar signal ffôn.

“Mae yna nifer o fannau gwael o ran signal yng Ngheredigion, ac o ganlyniad mae etholwyr yn cael eu cyfyngu wrth ddewis darparwr.

“Gyda’r pedwar cwmni hyn yn cydweithio, rwy’n gobeithio y bydd etholwyr nid yn unig yn medru gwneud eu bywydau yn haws wrth gael mynediad at rwydwaith ffôn symudol, ond hefyd y byddant yn medru cael gwerth eu harian oddi wrth y darparwyr ffôn.

“Mae’n rhaid manteisio ar bob cyfle i uwchraddio ein systemau ac amcanu am darged hygyrchedd o 100%, ac mae’n deg i’r gweithwyr hynny sy’n uwchraddio ein rhwydweithiau a chynnal ein systemau gael eu cydnabod fel Gweithwyr Allweddol.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.