Elin Mabbutt: Faenor

Graphics_Cyhoeddi_Ymgeiswyr_(23).png

Cefndir

  • Un o olygyddion a dosbarthwyr y papur bro lleol: Yr Angor
  • Llywodraethwr ac Ysgrifenyddes Cyfeillion Ysgol Gyfun Penweddig
  • Aelod o Gyngor Cymuned Llanbadarn

Pam pleidleisio dros Elin?

"Rwy'n ferch fferm o Lanwrtyd yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Llanbadarn Fawr gyda fy nghŵr am tri o blant sy'n mynychu Ysgol Gyfun Penweddig.

Wrth wynebu Cofid yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rydyn ni gyd wedi sylweddoli pa mor bwysig yw’r ardal leol, ein cymuned a’i chryfder. Hoffem weld ein cymunedau’n siapo eu dyfodol eu hunain, ac i gydweithio gyda chi i wireddu syniadau newydd a fydd yn gwella’r ardal leol a’r gymdeithas. Petai pobl y ward hon yn ymddiried ynof ac yn fy ethol fel eu Cynghorydd Sir fy ngobaith byddai y medrwn wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymuned.

Rwy’n berson penderfynol, gonest a theg, ac rwy’n barod i weithio’n ddiwyd dros holl breswylwyr y ward.

Gofynnaf am eich cefnogaeth ar 5 Mai."

Blaenoriaethau Elin

  • Parhau i ymgyrchu i sicrhau dyfodol ardal werdd rhwng Llanbadarn a’r Waunfawr a chefnogi mynediad pobl at weithgareddau awyr agored.
  • Lleihau ein hôl troed carbon trwy sicrhau bod caffaeliad bwyd y sector gyhoeddus yn lleol, yn dymhorol ac yn dod o ffynonellau cynaliadwy.
  • Gwella a datblygu cyfleoedd i fusnesau bach annibynnol er mwyn cryfhau'r economi leol.
  • Cefnogi mesurau diogelwch pellach i sicrhau diogelwch cerddwyr a seiclwyr.
  • Un o flaenoriaethau ein cymdeithas yw addysg: mae’n gwireddi potensial plant, pobl ifanc ac unigolion o bob oedran. Byddaf yn cefnogi cyfleoedd ar gyfer bobl ifanc; mae angen sicrhau bod cyfleoedd gwaith, byw a chymdeithasu ar gael ar eu cyfer yma’n lleol.
  • Annog a chefnogi unrhyw un sydd eisiau ymwneud â materion y cyngor i gael eu clywed a’u cynrychioli.

 

Manylion cyswllt:
[email protected]
07939 203938
@ElinMair77

Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgeiswyr 2022-02-10 03:13:59 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.