Yn dilyn ymgyrch hir gan Elin Jones AS a thrigolion lleol, mae Elin yn falch ei bod wedi derbyn cadarnhad gan y Llywodraeth bod gwaith yn mynd rhagddi ar greu llwybr cyd-ddefnyddio fydd yn cysylltu pentref Dole gyda Bow Street, ar yr A487.
Mae’r llythyr gan Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters AS, yn cadarnhau fod cynllun wedi ei ddatblygu a dyluniadau ar gyfer y llwybr newydd wedi eu creu. Mae’r Llywodraeth nawr yn trafod y manylion gyda thirfeddianwyr lleol, ac os bydd y sgyrsiau yma’n llwyddiannus, y gobaith yw y gall gwaith o bosib ddechrau yn gynnar yn y flwyddyn ariannol nesaf, cyn belled a bod cyllid ar gael.
Fel dywedodd Elin Jones AS: 'Mae hwn yn gadarnhad positif iawn gan y Gweinidog fod cynlluniau nawr ymhell ar y gweill i greu’r llwybr troed yma o Dole i bentref Bow Street. Mae trigolion wedi bod yn ymgyrchu am amser hir am lwybr diogel gellir cerdded a beicio arni i’r ysgol ac i fyned gwasanaethau Bow Street. Mae’r A487 yn ffordd brysur iawn ac mae’n amhosib cerdded neu feicio’n ddiogel ar ffordd o’r fath.
Rwyf hefyd yn falch bod y cynlluniau’n cynnwys arhosfa bws ffurfiol ar y gyffordd gyda Dole at ddefnydd bysiau ysgol, yn ogystal â bysiau gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r gyffordd yma yn fan sy’n beryglus i blant ysgol a defnyddwyr bws eraill i’w groesi, wrth iddynt ddefnyddio’r bysiau o Ddole i Aberystwyth.'
Dangos 1 ymateb