Elin Jones AS yn gwrthwynebu newidiadau gwasanaethau strôc Bronglais

Yn dilyn cyhoeddiad heddiw gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ei fod yn bwrw ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau arfaethedig i wasanaethau strôc ym Mronglais, mae Elin Jones AS yn galw ar y gymuned i gydweithio i wrthod y cynlluniau.   

Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig defnyddio model ‘trin a throsglwyddo’ ar gyfer Bronglais. Byddai hyn yn golygu canoli rhai gwasanaethau i ffwrdd o Fronglais a Glangwili i Lanelli, a byddai'n ein gadael gyda llai o wasanaethau yn Aberystwyth. 

Yn ôl y Gymdeithas Strôc, mae ansawdd y gofal strôc a ddarperir gan ysbytai’r DU yn cael ei fesur gan ddefnyddio sgôr SSNAP (Rhaglen Archwilio Genedlaethol Strôc Sentinel). Mae ysbytai wedi'u graddio o A-E, ac A yw'r lefel uchaf o ofal. Ar hyn o bryd mae gan Fronglais sgôr SSNAP o B yn barod, sy'n dangos bod y gwasanaeth yn darparu gofal da iawn.  

Dywedodd Elin Jones AS: “Rwy’n gwbl erbyn y cynnig trin a throsglwyddo ar gyfer gwasanaethau strôc ym Mronglais, ac rwyf wedi mynegi fy marn i’r Bwrdd Iechyd droeon dros y misoedd diwethaf a hefyd i Weinidogion Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd wedi ymweld â’r uned strôc lle trafodais ein darpariaeth bresennol gyda staff a chleifion, a siaradais mewn cyfarfod cyhoeddus yn Aberystwyth. 

Byddai’r model gofal hwn yn ei gwneud bron yn amhosibl i berthnasau ymweld â chleifion bob dydd neu’n aml, a gwyddom pa mor bwysig yw’r ymweliadau hyn i’w helpu i wella ar ôl strôc. Ni allwn dderbyn y cynnig hwn o fodel trin a throsglwyddo, ac rwy’n gweithio gyda phawb yn y gymuned leol yn y gobaith y bydd y Bwrdd Iechyd yn sylweddoli bod y model hwn yn annerbyniol. Rwy’n annog pawb i ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus pan fydd yn agor, fel y gallwn geisio sicrhau’r gwasanaethau o ansawdd uchel sydd gennym ar hyn o bryd ym Mronglais, a bod y Bwrdd Iechyd yn derbyn ‘Na’ clir iawn gan bobl Ceredigion.” 


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Newyddion 2025-05-29 14:41:33 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.