Yr wythnos hon, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi estyniad i'r Prosiect Band Eang Cyflym, sy'n anelu at ddod â band llydan i bawb.
Er bod y prosiect blaenorol, Cyflymu Cymru, wedi dod â band llydan cyflym iawn a ffibr i gyfanswm o dros 770,000 o adeiladau yng Nghymru, gwyddom fod llawer yng Ngheredigion wedi wynebu anawsterau wrth gael band llydan i'w cartrefi, ac mae rhai yn dal heb fand llydan digonol.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw asesu faint o eiddo sydd heb fand eang o hyd, fel gellir creu cynllun wedi'i dargedu yn ddiweddarach yn y flwyddyn i lenwi bylchau yn y ddarpariaeth. Mae Elin Jones yn awyddus i ddeall faint o eiddo yng Ngheredigion sydd heb fand llydan cyflym o hyd.
Dywedodd Elin Jones AS: "Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun hwn. Peidiodd band llydan â bod yn foethusrwydd flynyddoedd lawer yn ôl, ac oherwydd bod gan lawer o rannau o'n hardal anawsterau neu ddim signal ffonau symudol o gwbl, mae band llydan hyd yn oed yn bwysicach i'n bywydau beunyddiol yma yng Ngheredigion. Mae'n drueni ei bod hi'n cymryd cyhyd i 100% o orchudd band llydan cyflym fod ar gael i bawb.
Rwy'n gobeithio gallu rhoi dadansoddiad manwl i Lywodraeth Cymru o'r union eiddo sydd heb fand llydan yn y sir o hyd, fel y gall y Llywodraeth wneud y defnydd mwyaf posibl o'r arian sydd ar gael yn yr hydref. Felly gofynnwn i bawb yng Ngheredigion heb fand eang digonol i gysylltu â mi gyda'u manylion.”
Os ydych chi'n byw yng Ngheredigion, ac mae gyda chi drafferth gyda'ch fand llydan, neu os nad ydych chi'n gallu cael band llydan o gwbl, cysylltwch gydag Swyddfa Elin Jones AS os gwelwch yn dda, drwy ebostio [email protected] os gallwch chi, neu ffonio 01970 624516.
Dangos 1 ymateb