Bu aelodau Ceredigion o'r NFU yn ymweld â'r Senedd ddydd Mercher i glywed dadl Plaid Cymru yn annog Aelodau'r Senedd i gefnogi cynnig gan Blaid Cymru yn galw am ailystyried y polisi.
Yn dilyn y ddadl, gan dynnu sylw at yr effaith ddinistriol y bydd newidiadau Treth Etifeddiant Llywodraeth y DU yn ei chael ar deuluoedd ffermio yng Nghymru, trechwyd y cynnig o drwch blewyn. Ond pleidleisiodd Aelodau i gefnogi y dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru barhau i eiriol dros ffermwyr Cymru, gan sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed yn San Steffan.
Dywedodd Elin Jones AS: “Rwyf mor falch bod Plaid Cymru wedi gallu dod â’r ddadl hon i’r Senedd. Yng Ngheredigion mae gennym gymuned ffermio fawr, ac rydym yn gwybod am lawer sy’n bryderus ac y bydd cynllun Treth Etifeddiant Llywodraeth y DU yn effeithio arnynt.
Fel yr amlygodd Llyr ap Gruffydd AS ac Aelodau eraill a oedd yn siarad yn y ddadl, mae ein ffermwyr yn byw ar gyllidebau tynn iawn ac mae ganddynt lif arian cyfyngedig. Y tir, a busnes ac offer yw eu hasedau a gwarcheidwaid yr asedau hyn yn unig yw’r ffermwyr. Maent bob amser yn eu trosglwyddo i'w cenhedlaeth nesaf. Bydd rhoi biliau treth etifeddiant mawr ar y genhedlaeth nesaf yn peryglu hyfywedd llawer o’n ffermydd. Er mwyn diogelu ein sector ffermio, ein hiaith Gymraeg a’n ffordd wledig o fyw, rhaid inni adolygu’r dreth fferm deuluol hon.”
*Gallwch weld y ddadl yn llawn arlein: Senedd.tv - Y Cyfarfod Llawn - 05/03/25
Dangos 1 ymateb