Yr wythnos diwethaf ymunodd Elin Jones AS ag Aelodau eraill o Blaid Cymru ac NFU Cymru i ddathlu Wythnos Ffermio Cymru gyda lansiad maniffesto etholiadol NFU Cymru.
Mae Ffermio Cymru: Tyfu Ymlaen yr NFU yn nodi cyfres o flaenoriaethau allweddol y maent yn gofyn i Aelodau'r Senedd ac ymgeiswyr etholiad 2026 ganolbwyntio arnynt.
Mae cynhyrchu bwyd wrth graidd y ddogfen, sy'n gofyn am strategaeth a pholisïau bwyd cynhwysfawr o'r fferm i'r fforc fydd yn cefnogi dyfodol cynhyrchu bwyd Cymru.
Dywedodd Elin Jones AS: "Roedd hi'n wych gallu mynychu lansiad maniffesto NFU Cymru yn y Senedd. Y diwydiant amaethyddol yw asgwrn cefn ein cymunedau gwledig a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.
Mae Tyfu Ymlaen yn nodi cyfres o heriau rhagorol i bob un ohonom, ac rwy'n cefnogi NFU Cymru yn llwyr wrth iddynt sicrhau fod blaenoriaethau amaethyddiaeth a ffermio ar frig agenda Llywodraeth Cymru. Mae ffermio ac amaethyddiaeth, yn enwedig mewn siroedd fel Ceredigion, yn rhan hanfodol o'n heconomi, ein diwylliant a'r iaith Gymraeg, ac mae'n rhaid i ni eu diogelu ar bob cyfrif."
Dangos 1 ymateb