Mewn cyfarfod diweddar gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), bu Elin Jones AS yn annog swyddogion i weithredu cyn gynted â phosibl i sicrhau datrysiad parhaol ar gyfer canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian ac Ynyslas.
Mae'r ddarpariaeth dros dro sef fan lletygarwch a thoiledau symudol yn eu lle yn Nant yr Arian am yr haf, gyda pharcio a thoiledau yn parhau i fod ar gael yn Ynyslas. Fodd bynnag, nid yw’r rhain yn ddatrysiadau hirdymor i’r canolfannau ac mae angen i CNC weithio’n gyflym i sicrhau hyfywedd dyfodol y ddwy ganolfan.
Dywedodd Elin Jones AS: “Mae CNC wedi fy sicrhau y byddant mewn sefyllfa i agor proses dendro ar gyfer partner hirdymor Nant yr Arian o fis Medi, gyda’r gobaith bydd ar waith yn gynnar yn 2026. O ran Ynyslas, mae CNC yn cynnal trafodaethau gyda grwpiau cymunedol sydd â diddordeb mewn defnyddio’r ganolfan ymwelwyr ar gyfer y tymor hir, a gobeithio bydd y sgyrsiau yma’n llwyddiannus.
Erbyn hyn, mae gwir frys i adnabod dyfodol hirdymor y ddwy ganolfan. Ni ellir caniatáu i ddarpariaeth symudol a gan contractwyr tymor byr i barhau am fwy nag un haf. Mae partneriaid parod ar gael ar gyfer y canolfannau hyn ac mae angen i CNC weithredu ar fyrder i ddal y diddordebau lleol hyn. Nid yw rhoi’r gorau i’r ddau gyfleuster pwysig hyn yn y tymor hwy er budd neb, yn enwedig y gymuned leol.”
Dangos 1 ymateb