Etholiad yn gyfle i sicrhau bod llais unigryw Ceredigion yn cael ei glywed

Galeri_Gwefan.jpg

Mae Ben Lake wedi pwysleisio ei benderfyniad i ddefnyddio’r Etholiad Cyffredinol a gyhoeddwyd yn ddiweddar i dynnu sylw at y materion bob dydd sydd o bwys i bobl yng Ngheredigion.

Rhybuddiodd efallai na fydd y rhaniadau dros Brexit sydd wedi difetha’r Senedd bresennol yn cael eu datrys gan etholiad brys arall, ond addawodd ymgyrchu’n gadarnhaol ar faterion allweddol lle mae wedi cael effaith yn San Steffan, gan gynnwys bancio gwledig, gwella cysylltedd digidol, a chyllido teg i Gymru a’n gwasanaethau cyhoeddus.

Etholwyd Ben Lake yn AS newydd Ceredigion yn 2017, ac ers yr amser hwnnw mae wedi ennill enw da fel ymgyrchydd lleol egnïol sy’n barod i weithio yn drawsbleidiol er mwyn gyflawni gwneud gwahaniaeth yn ei etholaeth. Cafodd ei enwi’n ‘Politician to Watch’ yng ngwobrau ITV yn 2017, ac eleni fe’i enwebwyd yn AS y Flwyddyn.

“Bydd llawer o bobl ddim eisiau gweld etholiad cyffredinol arall – y drydedd mewn pum mlynedd,” meddai Ben Lake.

“O ystyried y rhethreg eithafol sy’n dod gan rai o arweinwyr y pleidiau yn San Steffan, nid wyf yn optimistaidd y bydd yr etholiad yn helpu i ddod â phobl ynghyd, nac yn datrys sefyllfa Brexit. Fodd bynnag, rwy'n benderfynol o ddefnyddio'r etholiad hwn i dynnu sylw at faterion sydd yn wir yn effeithio ar fywydau pob dydd pobl Ceredigion.”

Mae Ben Lake wedi cyflawni llawer yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae wedi profi llwyddiant trwy gydweithio gyda grwpiau lleol ac ymgyrchu ar eu rhan yn San Steffan. Fe wnaeth Ben sicrhau cyllid ar gyfer codiadau mewn pensiynau athrawon, £55 miliwn o fuddsoddiad ar gyfer Bargen Twf Canolbarth Cymru, gwrthdroi penderfyniad ‘Barclays’ i atal eu cwsmeriaid rhag codi arian o’r Swyddfa Bost, a sicrhau buddsoddiad mewn signal ffôn symudol yng nghefn gwlad.

Ychwanegodd Ben Lake, “Mae cymaint o bethau y mae angen i ni ymladd drostyn nhw yng Ngheredigion, ac rydw i'n benderfynol o barhau i frwydro dros y pethau hyn. Rwyf am barhau i sefyll dros gydraddoldeb pensiwn i filoedd o fenywod a anwyd yn y 1950au, dyfodol bad achub yr RNLI yn Nghei Newydd, a sicrhau bod cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar i ddatblygu cysylltedd digidol yng nghefn gwlad yn cael eu cyflawni.

“Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn defnyddio’r etholiad hwn i bwysleisio sut mae ansicrwydd parhaus a’r gobaith o Brexit heb gytundeb yn mynd i niweidio pobl a chymunedau yng Ngheredigion - o’n ffermwyr a’n busnesau bach i brifysgolion, y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.