Araith Ben Lake AS yn Eisteddfod Ceredigion 2022

Diolch yn fawr i’r Eisteddfod am y fraint o fod yn Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion. Yr Eisteddfod orau mae’r genedl wedi gweld … ers Eisteddfod Aberystwyth 1992.

Mae’n anrhydedd traddodi araith o lwyfan y Brifwyl yma yn Nhregaron, tref hanesyddol, tref masnachol, tref y Porthmyn... a thref sy’n agos iawn at fy nghalon.

Canys er mai brodor o Lambed ydw’i, treuliais Sadyrnau gorau fy mhlentyndod gyda Mamgu a Tadcu yn Llanddewi Brefi. O amgylch bwrdd y gegin, dros bentwr o gacennau a Bara Brith Mamgu, byddai fy chwaer, fy nghefnder a minnau wrth ein boddau’n clywed Tadcu yn adrodd storiau am ei amser fel heddwas yn Nhregaron, yn son:

  • am gymeriadau’r dref,
  • nosweithi hwyr y Talbot,
  • ac wrth gwrs bwrlwm y mart.

Bydde’ fe ddim syndod o gwbl i Tadcu bod yr Eisteddfod eleni wedi bod yn lwyddiant ysgubol. Ac yn sicr bydde fe wedi disgwyl i’r mart gynnal ei arwerthiant ddoe - er gwaetha’r Brifwyl – yn ôl yr afer. Ond rwy’n credu fe fydde fe ‘di cael hi’n anodd credu bod modd cynnal Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a mart Tregaron, ar un diwrnod - a bod na ddim problemau traffig! Mae’r Brifwyl eleni wedi dod i ardal gwledig balch, ac mae ein hanes fel cymuned wedi ei blethu’n dynn ag amaethu ers canrifoedd. Braf felly oedd gweld ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol yr wythnos yma copiau o hen boster yn hysbysu marchnad fisol Tregaron o’r flwyddyn 1872, sy’n cynnwys manylion am y gwobrau oedd i’w hennill ar gyfer stoc o safon uchel. Mae amaethwyr o bob ardal o Gymru a thu hwnt yn heidio i’r dref i arddangos a gwerthu eu stoc, ac ar y poster ceir disgrifiad hyfryd o fawredd y mart rhyw ganrif a hanner yn ôl gan Ioan Mynyw, bardd o Dregaron:

Yn llon i Garon daw Gwyr Llangurig,

Epilwyr, Amaethwyr o’r Amwythig, ...

 

O Forgannwg fawr ugeiniau - geisiant

Yn gyson ei nwyddau;

Y Brif Ddinas brawf ddoniau,

A mael hon sy’n mawr amlhau.

 

Diddorol fydde gwybod barn Ioan Mynyw o ddyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i’w milltir sgwar, a pha bennill fydd ganddo i ddisgrifio’r cynulliad arbennig hwn o gantorion, cerddorion a llenorion gorau’r wlad. Oherwydd Tregaron oedd eto brif ddinas brawf ddoniau yr wythnos hon, gyda’r gorau o stoc ddiwylliannol Cymru yn cael eu gwerthfawrogi a’u gwobrwyo.

Nawr, wrth i ni nesau at ddiwedd yr wyl mae gen i gyfaddefia - nid ar lwyfannau’r Steddfod oe’n i’n treulio amser fel crwt ifanc, ond ar feysydd chwarae pel droed a rygbi’r sir, gan gynnwys y caeau sydd, wythnos yma, yn arwain at faes parcio’r Eisteddfod. Yn wir, gellid ddweud bod fy stoc cystadlu fel Eisteddfotwr, yn go druenus. Mae’n rhaid fi fynd i ben arall Dyffryn Teifi i honni unrhyw lwyddiant Eisteddfodol ... a hynny diolch i mam fy mam, Nannie Castell Newi’ a ennillodd yr unawd Cerdd Dant ddwywaith (!) yn Eisteddfod Llandybie 1944 ag Eistedfodd Penybont 1948. Ond o leia’ mae fy mhartner o stoc Eisteddfodol da – diolch eto i linach cerdd dant Castell Newi’ a Chapel Iwan.

Dwi’n llawn edmygedd o’r rheiny sydd wedi meistroli’r grefft o berfformio. Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cystadlu a pherfformio ar amryw lwyfannau’r ‘Steddfod, a diolch i chi gyd am roi gwledd i ni wythnos ma.

Diolch hefyd i’r llu o bobl tu ôl i’r llenni.

Mi fydde’n amhosib cynnal Eisteddfod mor llwyddiannus heb gyfraniadau:

  • Y Gwirfoddolwyr a’r staff
  • Y stiwardiaid a’r criw maes parcio
  • Yr hyfforddwyr ... a’r beirniaid.

Hoffwn ddiolch o waelod calon i’r gymuned wych hyn o bobl, i gymuned yr Eisteddfod, am sicrhau fod ein prifwyl yng Ngheredigion yn un mor llwyddiannus.

Pwysig hefyd yw cofio am yr unigolion a gollwyd, dros y ddwy flynedd ddiwethaf – rheiny fyddai wedi bod wrth eu boddau yma ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron. Mae ‘na fwlch mawr iawn ar eu hôlau ac ry’n ni’n cofio’n annwyl amdanynt i gyd.

Wedi dyddiau du’r pandemig, mi fydd Eisteddfod Ceredigion yn aros yn hir yng nghof y genedl. Dyma oedd dadeni cymuned yr Eisteddfod wedi’r cyfnod anodd diwethaf, gyda chymunedau Ceredigion yn croesawu’r genedl yn ôl i faes y Brifwyl. Prin bod ‘na’r un hewl neu lwybr yng Ngheredigion heb ei addurno gan faneri neu arwyddion lliwgar. Mae ymdrechion pentrefi a threfi ledled y sir i groesawu pawb i’r Eisteddfod wedi bod yn gwbl hyfryd. A ‘ma diolch yn fawr i’r pwyllgorau codi arian ac i bob unigolyn ar draws Ceredigion sydd wedi rhoi o’i hamser a’u harian tuag at Eisteddfod mor llewyrchus. Ie. Cardis yn codi dros £450,000. Fel medde’ un o Brifeirdd enwog Aberteifi, Ceri Wyn Jones:

‘Nid yw dwrn y Cardi’n dynn

Â’i gyfoeth pan fo’r gofyn.’

Does dim dwywaith mai pobl sy’n gwneud lle, a’r Cardis sy’n gwneud Ceredigion; Cariad at eu milltir sgwar, cariad at yr iaith, cariad at y gymuned. Mae eu hiwmor ffraeth, eu gwytnwch, a’u natur cymwynsagar, i gyd yn rhan annatod o ruddin y Cardi.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 yn cael ei chofio fel Eisteddfod groesawgar, gwledig ac agos-atoch-chi, a braint yw cael bod yn Llywydd yr Wyl arbennig hon.

Ond er holl lwyddiant yr wythnos ddiwethaf yma, ffôl fyddai meddwl bod bywyd yng nghefn gwlad yn fêl i gyd, neu bod modd cymryd cadarnloeodd y Gymraeg ... yn ganiataol. Mae’r argyfwng costau byw, dyfodol ansicr y diwydiant amaeth a’r argyfwng tai, yn fygythiad enfawr i’n cymunedau gweldig ac i’n hiaith. Waeth i ni beidio anwybyddu canlyniadau brawychus y cyfrifiad diweddaraf, sy’n dangos cwymp sylweddol ym mhoblogaeth Ceredigion a nifer o’n siroedd gwledig. Bob blwyddyn ma cymunedau gwledig hyd a lled Cymru yn colli degau ar ddegau o bobl i’r dinasoedd mawr, a hynny  - gan amla’ - am nad oes digon o gyfleoedd gwaith yn lleol. Dyma oedd un o brif themau sioe bwerus mudiad Clwb Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn y Pafiliwn Nos Lun, a’u portread o effaith ymadawiad graddol pobl ifanc o’n broydd ar ein cymunedau gwledig. Gyda neges mor bwysig, trueni na ddarlledwyd y ddrama hon i’r genedl gyfan.

Ac heb fod yn or-wleidyddol prynhawn yma, rwy’n argyhoeddiedig fod angen i wleidyddion o bob plaid, yn San Steffan ac yn y Senedd, wrando a deall ein cymunedau gwledig ni’n well. Achos ‘dyw dirywiad ein cymunedau gweldig ddim yn anochel. Mae yna gryfder yn ein cymunedau o hyd, fel y mae’r Cardis wedi dangos wrth gynnal yr Eisteddfod eleni ac yn y ffordd maent wedi croesawu’r genedl i Dregaron. Mae gwytnwch y Cardis yn brawf nad yw hi’n rhy hwyr i droi’r don, ac i weithredu i atgyfnerthu cadarnleoedd yr iaith. Ond mae angen buddsoddi. Buddsoddi yn ein hisadeiledd trafnidiaeth a chysylltedd. Buddsoddi mewn cartrefi fforddiadwy. Buddsoddi yn yr economi leol. Buddsoddi yn y diwydiant amaeth. Buddsoddi yn ein pobl ifanc. O fynd ati i fuddsoddi yn ein cymunedau, fe allwn sirchau ddyfodol llewyrchus i Gymru benbaladr. Ac o fuddsoddi yn ein cymunedau gweldig – cadarnleoedd ein hiaith – gallwn wireddu geiriau gobeithiol poster Mart Tregaron o 1872:

“Tra mor, tra Brython, oes y byd i’r iaith Gymraeg, ... a marchnad fisol Tregaron.”


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2022-08-12 14:20:08 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.