Ar ddechrau'r ddegawd newydd mae Papur Sain Ceredigion yn dathlu ei benblwydd yn hanner can mlwydd oed. Mae rhifyn cyntaf 2020, a gyhoeddwyd ar 8 Ionawr, yn myfyrio ar ac yn dathlu’r rhifyn cyntaf o Papur Sain Ceredigion a ryddhawyd 50 mlynedd yn ôl ym mis Ionawr 1970. Dyma’r cyntaf erioed yn y Deyrnas Unedig. 18 o bobl oedd yn ei dderbyn ar y dechrau; erbyn heddiw mae 112 o wrandawyr, sydd â gwahanol raddau o nam ar eu golwg, yn ei dderbyn.
Mae Ben Lake AS wedi cyflwyno Cynnig Cynnar-yn-y-Dydd yn y Senedd i ddathlu’r hanner canmlwyddiant ac i gydnabod effaith y Papur Sain ar gynifer o fywydau ledled Ceredigion a gorllewin Cymru.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Fel sir dylem fod yn hynod falch o Papur Sain Ceredigion a dylem longyfarch y tîm ar gyrraedd y garreg filltir bwysig hon. Mae dathlu hanner canmlwyddiant y papur yn dyst i ymrwymiad ac ymroddiad y darllenwyr gwirfoddol, yr arbenigwyr technegol a phawb sydd wedi codi arian i gadw'r gwasanaeth pwysig hwn i fynd am hanner canrif. Rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw ar gyfer yr hanner canmlwyddiant nesaf.”
Mae’r Cynnig Cynnar-yn-y-Dydd (Early Day Motion #40) yn darllen fel a ganlyn:
“That this House celebrates the 50th anniversary of the Papur Sain Ceredigion Talking newspaper for its remarkable achievements on increasing accessibility for many people across Wales who struggle with disabilities; recognises the importance of Papur Sain Ceredigion’s initial appearance on January 1970 as the first of its kind in the UK, beginning with only an audience of 18 and today drawing in 112 listeners with varying degrees of visual impairment committed to helping them engage, be included and informed on all discussions surrounding current affairs in Wales and beyond; and commends the specific contributions of Ronald Sturt who was the lecturer at the College of Librarianship Wales in Llanbadarn Fawr and the architect of the first talking Newspaper, who sadly passed away on 6 January 2003 aged 81, leaving behind an extraordinary legacy that was marked by his creation and first presidency of the Talking Newspaper Association UK, now known as the Talking Newspaper Federation; and notes that Mr Sturt is most of all remembered for inspiring a whole new generation to carry on this significant work that started with him 50 years ago.”
https://edm.parliament.uk/early-day-motion/53493/papur-sain-ceredigion-talking-newspaper