Mae Ben Lake AS wedi cyflwyno Cynnig Cynnar-yn-y-dydd gerbron San Steffan i longyfarch Cwmni Cletwr ar eu pumed pen-blwydd.
Busnes sy’n eiddo i’r gymuned yw Cwmni Cymunedol Cletwr a agorodd eu drysau gyntaf yn 2013, ychydig flynyddoedd ar ôl i’r siop bentref a’r garej deuluol gau. Ers hynny mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth; yn 2017 symudodd y siop a’r caffi i adeilad a adeiladwyd yn bwrpasol ar eu cyfer, ac wedi datblygu yn ganolfan gymunedol bwysig gan ddarparu rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau, sgyrsiau a dosbarthiadau trwy gydol y flwyddyn.
Caiff y busnes ei redeg gan gyfuniad o staff cyflogedig a chriw mawr o wirfoddolwyr, ac mae’r prosiect yn ymateb yn barhaol i gyfleoedd newydd ac yn gwrando ar anghenion y gymuned leol. Mae’r busnes yn chwarae rhan allweddol wrth ymdrin â phroblem gynyddol tlodi gwledig ac unigedd cymdeithasol, gan ddarparu ar yr un pryd cyflogaeth leol a chyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc.
Roedd y Cynnig Cynnar-yn-y-dydd (EDM1279) a osodwyd gan Ben Lake AS yn darllen fel a ganlyn:
Bod y Ty hwn yn llongyfarch Cwmni Cletwr, prosiect gymunedol yn Nhre’r Ddol, ar ddathlu eu pumed pen blwydd; yn cydnabod effaith bositif y siop, caffi a’r ganolfan gymunedol, sy’n weithredol nid er elw, ar y gymuned leol ers agor yn 2013; yn cydnabod gwaith diflino y gwirfoddolwyr a neilltuodd eu amser hamdden er mwyn darparu gwasanaeth hanfodol i’r gymuned leol; yn nodi ansawdd y cynnyrch lleol sydd ar gael yn y siop a’r caffi ynghyd â’r amrywiaeth eang o weithgareddau a gwasanaethau gwybodaeth a ddarperir gan y ganolfan gymunedol; yn cydnabod ymhellach ymroddiad ac ymdrechion tîm Cwmni Cletwr wrth ymdrin â phroblemau tlodi gwledig ac unigedd cymdeithasol yn yr ardal leol ac yn canmol Cwmni Cletwr fel enghraifft wych o fenter gymunedol arei gorau.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Pleser fu gosod y cynnig hwn yn y Llywodraeth gan gydnabod effaith pellgyrhaeddol Cwmni Cletwr ar y gymuned leol dros y bum mlynedd ddiwethaf.
“Mae’r ganolfan gymunedol hon yn fan canolog yng ngogledd y sir sy’n dod â thrigolion o bob oed, busnesau lleol a sefydliadau bychain yn llwyddiannus at ei gilydd gyda’r nod o wella ansawdd bywyd.
“Llongyfarchiadau i bob gwirfoddolwr, aelod o staff a chefnogwr Cwmni Cletwr ar gyrraedd y pumed pen-blwydd arwyddocaol hwn. Rwy’n gobeithio y bydd eu profiad a’u llwyddiant yn ysbrydoliaeth i gymunedau eraill sydd â diddordeb mewn cychwyn menter debyg yn eu hardaloedd hwy.