Yn ei araith yn Nadl y Bil Cyllid ar ddydd Iau, 2 Gorffennaf, fe wnaeth Ben Lake AS Ceredigion annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ysgogi a chefnogi twf economaidd mewn ardaloedd gwledig.
Yn ystod ail ddiwrnod adrodd camau y Bil Cyllid, bu ASau yn ystyried diwygiadau a chymalau newydd yn ymwneud â rhyddhad treth.
Roedd gwelliant Ben Lake AS yn herio'r Llywodraeth y DU i ymrwymo i sicrhau gwell tegwch rhwng pob cenedl a rhanbarth o’r DU.
Yn ei araith dywedodd Mr Lake bod cyllid cyhoeddus ar gyfer ymchwil a datblygiad, gwariant cyhoeddus ar isadeiledd trafnidiaeth yn ogystal â chyfalaf menter wedi cael ei ganolbwyntio yn sylweddol ar Lundain ac ar ranbarth De Ddwyrain Lloegr.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Dros y ddeg mlynedd ddiwethaf mae datblygiad economaidd wedi canolbwyntio ar well cysylltiad rhwng ardaloedd gwledig â pheiriant economaidd y dinasoedd mawrion, yn hytrach nag ysgogi a chefnogi twf economaidd yn yr ardaloedd gwledig eu hunain.
“Mae model fel hyn sydd wedi ei ganoli, yn anochel, wedi canolbwyntio ar weithgaredd economaidd yn Llundain, ac o ganlyniad, mae potensial economaidd ardaloedd eraill wedi eu hesgeuluso.
“Mae economïau modern, blaengar megis yr Almaen, yr Iseldiroedd a hyd yn oed UDA yn llwyddo i sicrhau gwell amrediad daearyddol o gyfoeth economaidd, a phan fyddwn yn y pen draw yn symud tuag at economi ôl-Covid, mae’n rhaid i Llywodraeth y DU wneud ymgais ar y cyd i ail dafoli twf economaidd trwy’r DU.”