Mae ffermwyr Ceredigion, fel rhai ledled Cymru, yn iawn i boeni am ddyfodol y sector. Roedd eu protest yn Aberystwyth yn ddidwyll, yn gadarn ond bonheddig a'r niferoedd yn adlewyrchu cryfder teimlad ffermwyr oherwydd yr heriau sy'n wynebu’r byd amaeth yng Nghymru. Mae llawer o’r heriau’n deillio’n uniongyrchol o benderfyniadau gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru.
Boed yn Gynllun Ffermio Cynaliadwy, costau mewnbwn fferm gynyddol, effeithiau tanseilio Brexit a chytundebau masnach newydd, rheoliadau NVZ, methiant i fynd i’r afael â’r diciâu mewn gwartheg - maent i gyd yn brifo’r diwydiant. Ond pan fyddant i gyd yn dod at ei gilydd mae'r effaith gronnus gymaint yn waeth.
Fel dywedodd Ben Lake AS yn y brotest ddydd Iau, "does dim syndod bod ffermwyr yn grac" ac Elin Jones AS yn ategu hynny gan addo cymryd y galwadau i'r Senedd ar ran y gymuned amaeth.
Does neb yn gwybod mwy na ffermwyr bod ganddyn nhw ran fawr i'w chwarae wrth helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Dyna pam mae'r diwydiant wedi addo sicrhau sero net erbyn 2040 sy'n gynt na tharged Llywodraeth Cymru ei hun. Mae ffermwyr yn barod i gwrdd â'r her, ond mae'n rhaid i'r pontio hwnnw fod yn drawsnewidiad cyfiawn i'r rhai sy'n gweithio ym myd amaeth yn yr un modd ag y mae galw mawr amdano ar gyfer sectorau eraill fel y diwydiant dur.
Mae Plaid Cymru wedi dadlau dro ar ôl tro bod buddsoddi yn ein diwydiant ffermio yn fuddsoddiad i Gymru, gydag elw o £9 am bob £1 sy'n mynd i mewn i'r diwydiant. O'r economi, i gynhyrchu bwyd, diogelu ein diwylliant a'n hiaith, a phartner allweddol wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd - rhaid i Lafur sylweddoli bod ffermwyr Cymru yn allweddol i lwyddiant Cymru.
Mae Plaid Cymru Ceredigion yn sefyll ochr yn ochr â'n cymunedau gwledig ac yn cydweithio a'r rhai sydd yn llinell flaen y diwydiant i ddiogelu dyfodol y fferm deuluol. Bydd Plaid Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddylanwadu ar Lywodraethau Cymru a San Steffan i newid cyfeiriad.
Mae llai na phythefnos i fynd ar ymgynghoriad y Llywodraeth ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy - mae'n hanfodol bwysig eich bod chi'n manteisio ar y cyfle i ddweud eich dweud: Cynllun Ffermio Cynaliadwy | LLYW.CYMRU
Dangos 1 ymateb