Diogelu gwasanaethau sydd yn bwysig nawr, nid eu torri

 

Fydd ddim rhagor o doriadau ar wasanaethau'r cyhoedd ac i wireddu hynny mi fydd y Treth y Cyngor, yn anffodus, ar gyfer eiddo Band D yn codi £13.38 y mis – cynnydd o 9.3%. Mae’n gynnwys treth 8.7% a chynnydd o 0.6% ar gyfer yr Ardoll Tân.

 

Unwaith eto, dydy'r Llywodraethau Llafur, ym Mae Caerdydd a San Steffan, ddim wedi cefnogi awdurdodau lleol gydag arian digonol, felly mae’n rhaid i’r Cyngor benderfynu sut i gynnal gwasanaethau o fewn cyllid hynod o dynn.

Tro ar ôl tro mae cynrychiolwyr Plaid Cymru yn y Senedd ac yn San Steffan, yn ogystal ag arweinwyr Cynghorau Sir wedi erfyn ar Lywodraeth Llafur i godi eu darpariaeth i lywodraethau lleol gan 7% er mwyn iddynt allu cynnal gwasanaethau. Ond eto eleni, cyhoeddodd y Gweinidog mai 3.8% sydd o gynnydd ar gyfer Ceredigion - sef y raddfa isaf.  O ganlyniad, mae’n rhaid i gynghorau sir naill ai dorri gwasanaethau hynod o werthfawr neu godi treth y cyngor – neu fel mae nifer o siroedd eraill wedi penderfynu gwneud -  i godi’r dreth a gwneud toriadau. Meddai Cyng. Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor;

“Rydyn ni’n deall bod yn amser eithriadol o anodd i lawer o drigolion. Ond y gwir yw, nad yw awdurdodau lleol yn cael eu hariannu’n ddigonol.  

“Y llynedd, bu rhaid gwneud toriadau mewn 70 o wasanaethau’r Cyngor Sir yn ogystal â chodi’r dreth dros 11%. Eleni, dydyn ni ddim am dorri unrhyw wasanaethau. Er lles pob unigolyn yng Ngheredigion, mae rhaid diogelu gwasanaethau sydd yn cefnogi pobol Ceredigion - yn enwedig y rhai bregus a'r rhai sydd yn gweld cyni ariannol. 

“Pe bai angen torri gwasanaethau byddai'n rhaid i'r toriadau fod o fewn gwasanaethau nad oes rhaid i’r Cyngor Sir eu darparu’n statudol. Er enghraifft, cefnogaeth i ofalwyr ifanc, cysylltwyr cymunedol, canolfannau iechyd a lles gan gynnwys y cynllun NERS, cefnogi canolfannau teuluol. Dydyn ni ddim am leihau ein cefnogaeth i’r sectorau holl pwysig yma a’u rôl yn iechyd a lles ein trigolion,”

Un elfen annisgwyl i’r cynnydd, roedd oherwydd effaith y penderfyniad gan y Canghellor ar Yswiriant Gwladol y Cyflogwyr.  Mae diwygiadau’r Canghellor i Yswiriant Gwladol Cyflogwyr o fis Ebrill 2025 yn faich aruthrol i’r Cyngor. Disgwylir yr effaith ariannol net i'r Cyngor yn oddeutu £1.6m. 

Yn ogystal, mae’r cabinet wedi cytuno i fuddsoddiad sylweddol o £827,000  ar wasanaethau casglu gwastraff a gorfodi cynllunio sy’n gyfartal i 1.5% o’r cynnydd yn nhreth y cyngor. Mi fydd rhagor o staff casglu a lorïau casglu gwastraff newydd yn rhan o’r buddsoddiad. 

Mae’r cabinet hefyd yn blaenoriaethu gwasanaethau addysg trwy gynyddu’r cyllid ar gyfer addysg a dysgu gydol oes. Dywedodd Cyng. Davies; 

“Rydyn ni wedi rhoi blaenoriaeth i addysg ein plant – fe fydd yr adran addysg yn derbyn cyllid sy’n 8.3% yn fwy eleni. Mae hynny yn uwch na’r gwasanaethau eraill rydyn ni’n cynnal ac yn dangos ein hymrwymiad i’r safon uchaf posib o addysg i’n pobl ifanc. Mae Estyn wedi dweud ein bod ni wedi sicrhau darpariaeth addysgol sefydlog o safon uchel i ddysgwyr ond rydyn ni’n ymwybodol o’r sefyllfa dynn iawn o fewn cyllidebau ysgolion a’r heriau sydd yn eu hwynebu.”

Yn ystod y cyfarfodydd craffu’r cyllid cynhaliwyd yn ystod y mis diwethaf, dydy’r gwrthbleidiau heb ddod ag unrhyw gynllun sydd ddim yn golygu toriadau sylweddol i’r gwasanaethau mae’r cyngor yn eu cynnal.

Ychwanegodd Cyng. Davies; 

“Mae’r grŵp annibynnol wedi gofyn am dorri pob swydd sydd yn talu cyflog dros £45,000 y flwyddyn heb gynnwys swyddi o fewn y sector addysg. Ond mae 72% o swyddi o fewn y Cyngor sydd â chyflog dros £45,000 yn yr adran addysg ac o ganlyniad yn statudol, felly nid yw hynny’n gynllun sydd wedi’i hystyried yn ddigon manwl nag yn gynaliadwy. 

“Yn ogystal, er mwyn torri swyddi sy’n ennill dros £45,000 y flwyddyn sydd ddim yn statudol, dim ond 40 swydd sydd yn ddilys ar gyfer toriadau ac mae'r rheiny’n swyddi rheng flaen er dydyn nhw ddim yn statudol. Fe fydd angen torri tri chwarter o’n swyddi rheng flaen os dilynir y cynnig yma. 

“Rydyn ni am ganmol grŵp cynghorwyr Plaid Cymru am eu gwaith yn ystod y cyfarfodydd craffu a’u hymrwymiad i beidio â thorri gwasanaethau’r Cyngor Sir yn rhagor. Mae’n amlwg inni byddai gwario llai yn awr ar wasanaethau gwerthfawr o fewn ein cymunedau ond yn arwain at broblemau sylfaenol ac yn fwy o faich ar y  pwrs cyhoeddus yn y dyfodol.”

 


Dangos 1 ymateb

  • Matt Adams
    published this page in Newyddion 2025-03-04 14:40:03 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.