Ben Lake AS yn croesawu penderfyniad BT oedi eu cynlluniau Digital Voice

annie-spratt-goholCAVTRs-unsplash.jpg

Mae BT wedi cadarnhau y byddant yn oedi rhag trosglwyddo mwy o gwsmeriaid i Digital Voice os and ydynt am symud i’r dechnoleg newydd yma.

Yn wreiddiol roedd BT wedi penderfynu gorffen defnyddio rhwydwaith teleffon gopr o Ragfyr 2025. Byddai hynny wedi golygu mai drwy dechnoleg ddigidol o’r enw Voice over Internet Protocol (‘VoIP) byddai galwadau ffôn yn cael eu gwneud, a hynny drwy ddefnyddio cyswllt band-eang.

Bu nifer o bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig mewn cysylltiad â Ben Lake AS yn mynegi eu pryder na fyddai ganddynt ffordd i gysylltu â’r byd mawr be fyddai toriad yn eu cyswllt band-eang.

Daeth hyn fwyfwy i’r amlwg yn ystod stormydd Arwen ac Eunice yn ddiweddar, pan fethodd pobl - gan gynnwys etholwyr Ben Lake yng Ngheredigion - gysylltu â theulu a ffrindiau ystod toriadau pŵer. Tra bod nifer o linellau wedi torri yn ystod y stormydd yma, yn cynnwys yr hen linellau ffôn, yn ogystal â llinellau trydan - byddai nifer o gwsmeriaid wedi methu gwneud galwadau pe byddent yn ddibynnol ar gyswllt band-eang yn unig.

Cododd Ben Lake AS y pryderon hyn ar ran ei etholwyr gyda BT, DMS ac OFCOM ar un waith, ac mewn ymateb i gyhoeddiad BT heddiw dywedodd:

“Rwy’n croesawi benderfyniad BT i oedi eu rhaglen drosglwyddo Digital Voice. Rwy’n gwybod bod nifer o’m hetholwyr yn pryderu’n fawr am y posibilrwydd o golli eu llinellau copr ac rwy’n ddiolchgar fod BT wedi gwrando ar bryderon eu cwsmeriaid ac wedi ymateb yn ddiymdroi.

"Mae angen mawr i wella’r seilwaith cysylltedd yng Ngheredigion a sicrhau bod systemau wrth gefn cryfach mewn lle ar gyfer adeiladau gwledig yn benodol os yw’r rhaglen yma i’w hatgyfodi yn y dyfodol.”

Mae BT wedi cadarnhau na fyddant yn ail-ddechrau’r rhaglen drosglwyddo Digital Voice nes bod ganddynt systemau allweddol yn eu lle fyddai’n cynnig cysylltedd dibynadwy pan fyddant ei angen.


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2022-04-05 01:14:52 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.