Yn ystod dadl yn Neuadd San Steffan ar ddyfodol economi wledig Cymru, dan arweiniad Liz Saville Roberts AS, siaradodd Ben Lake AS am yr heriau sylweddol a wynebir gan gymunedau gwledig o ran cysylltedd digidol a thrafnidiaeth.
Yn ystod ei araith nododd Mr Lake fod cysylltedd “yn parhau i fod yn her aruthrol i economi wledig Cymru.”
Nododd adroddiad Ofcom “Connected Nations” yn 2020 na all bron i 9,000 o adeiladau yng Nghymru gael gwasanaeth band eang sefydlog boddhaol na chael signal 4G da y tu mewn, gyda bron pob un o’r adeiladau hynny mewn ardaloedd gwledig. Yn fwy diweddar, canfu NFU Cymru ac eraill fod llai na 50% o'r rhai a oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig wedi dweud bod ganddynt fand eang safonol, dim ond 36% oedd â band eang cyflym iawn, a dywedodd 66% fod band eang gwael wedi effeithio arnynt hwy neu ar eu teulu.
Amcangyfrifir nad yw 26.5% o ardaloedd gwledig Cymru yn derbyn cysylltiad band eang boddhaol (10mbps) o gymharu â chyfartaledd Cymru o 11.9% a chyfartaledd y DU o 9.3%.
Croesawodd Ben Lake AS y cynllun peilot uwchraddio band eang diweddar a gynhaliwyd gan DCMS yng Ngheredigion a siroedd cyfagos, a “lwyddodd i gydgrynhoi galw’r gymuned am well band eang ac annog darparwyr rhwydwaith gwahanol i geisio ymgymryd â gwaith uwchraddio yn rhai o’n cymunedau mwyaf gwledig”. Er gwaethaf llwyddiant cychwynnol y cynllun, nododd Mr Lake fod cyhoeddiad Openreach am roi cynllun masnachol ar waith yng Ngheredigion dros y pedair neu bum mlynedd nesaf wedi taflu ansicrwydd ar lawer o brosiectau uwchraddio band eang oedd ar fin digwydd.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae mynediad at fand eang yn hanfodol ar gyfer ffyniant economaidd a lles unigolion. Ar hyn o bryd, mae perygl gwirioneddol na fydd strategaeth seilwaith digidol Llywodraeth y DU yn ddigonol ar gyfer cymunedau gwledig yng Ngheredigion.
“I ychwanegu at y llanast hwn mae’r ffaith nad yw polisïau’r Llywodraeth ar gyfer mynd i’r afael â gwell cysylltiad symudol mewn ardaloedd gwledig yn gweithio chwaith.
“Yr un mor bwysig â chysylltu ein heconomi wledig yn ddigidol yw’r angen i ddatgarboneiddio ein system drafnidiaeth yn gyflym a lleihau’r defnydd o geir preifat yn gyfrifol. Yn syml, nid yw'n ddigon i'r Llywodraethau ar y naill ben a'r llall i'r M4 alw am well teithio llesol neu am fabwysiadu cerbydau trydan os nad ydyn nhw hefyd yn barod i fuddsoddi yn y seilwaith angenrheidiol a gwell trafnidiaeth gyhoeddus.
“Mae pob ardal, pob cymuned - yn wir, holl wledydd y DU - yn haeddu triniaeth gyfartal, felly gobeithio bydd Llywodraethau’r DU a Chymru yn gwneud eu gorau glas i sicrhau’r buddsoddiad a, lle bo angen, diwygio polisi i ganiatáu i’n cymunedau gwledig gyflawni eu potensial. ”
Dangos 1 ymateb