Plaid Cymru'n ymrwymo i astudiaeth ddichonoldeb rheilffordd

Mae ymgeisydd lleol Plaid Cymru yng Ngheredigion Elin Jones wedi ymuno ag arweinydd y Blaid Leanne Wood i gyfarfod ag aelodau o Trawslink Cymru, yr ymgyrch i ail-sefydlu cysylltiadau rheilffordd rhwng y gogledd a'r de yng Nghymru.

Mae ymrwymiad i fwrw ymlaen ag astudiaeth ddichonoldeb lawn ar ailagor y rheilffordd o Aberystwyth i Dregaron, Llanbedr Pont Steffan a Chaerfyrddin yn ymddangos ym maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiadau Cymru ar 5 Mai, fel rhan o ymrwymiad ehangach i ledaenu buddsoddiad mewn trafnidiaeth ledled Cymru gyfan.

Trawslink gyda Elin Jones a Leanne Wood

Y llynedd, llwyddodd yr ymgyrch Trawslink i ddarbwyllo Llywodraeth Cymru i gynnal astudiaeth gwmpasu gychwynnol ar gyfer y prosiect, ac mae Elin Jones wedi cyfarfod â Network Rail i drafod ffyrdd y gellid bwrw ymlaen â’r gwaith.

Fe gwrddodd gwleidyddion Plaid Cymru â dirprwyaeth o gynrychiolwyr Trawslink Cymru yng ngorsaf drenau Aberystwyth.

Dywedodd Elin Jones, ymgeisydd Plaid Cymru dros Geredigion,

"Rwy’n falch iawn bod Plaid Cymru wedi penderfynu cefnogi astudiaeth ddichonoldeb lawn ar ailagor y llinell rheilffordd Aberystwyth i Gaerfyrddin yn ein maniffesto.

"Mae angen polisi trafnidiaeth arnom sy'n rhoi pwyslais ar gynaliadwyedd, ac ar wella'r seilwaith sy’n cysylltu pob rhan o Gymru. Mae bwrw ymlaen â’r prosiect rheilffordd hwn, yn ogystal â chynnig cynlluniau i wella ffyrdd, llwybrau bysiau a llwybrau beicio, yn rhan bwysig o ymrwymiad Plaid Cymru at gyflawni’r nod hwnnw.

"Bwriad y Llywodraeth Lafur presennol yw gwario £1 biliwn ar ddarn byr o’r M4. Byddai Plaid Cymru yn rhannu’r buddsoddiad hwn yn decach i bob rhan o Gymru."

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.