Mae Elin Jones - Aelod Cynulliad dros Geredigion ers 1999, wedi cael ei hailddewis i sefyll dros Geredigion yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2021.
Yn ystod ei chyfnod fel AC, mae Elin wedi bod yn llefarydd dros Iechyd, yn Weinidog dros Amaethyddiaeth, ac mae bellach yn Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol. Tra’n ymgymryd â nifer o swyddogaethau yn Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol, mae Elin wedi parhau i fod yn Aelod Cynulliad etholaeth gweithredol ac yn cyfarfod ag etholwyr Ceredigion yn wythnosol, gan gefnogi ystod eang o ymgyrchoedd ac achosion.
Wrth gael ei hailddewis, dywedodd Elin Jones AC:
‘Yn ystod fy nghyfnod fel Aelod Cynulliad dros Geredigion, rydw i wedi bod yn falch iawn o'r hyn a gyflawnwyd yn genedlaethol ac yn lleol. Mae ymladd dros ein ffermwyr, ein prifysgolion a datblygiad ein trefi a'n heconomi wledig wedi bod yn ymgyrchoedd brwd. Mae sicrhau dyfodol Bronglais a datblygiadau ein gwasanaethau iechyd ledled Ceredigion wedi bod yn brofiadau arbennig o werthfawr. Mae pawb yn haeddu'r hawl i ofal iechyd o safon uchel yn agos at eu cartref.
‘Mae llawer o ymgyrchoedd i'w hymladd o hyd, ac rwy'n parhau i wthio i Geredigion gael ei blaenoriaethu yng nghynlluniau Llywodraeth Cymru, fel cyflwyno Band Eang ac ar gyfer prosiectau isadeiledd fel gwelliannau ffyrdd ac ailagor rheilffyrdd.
‘Hoffwn ddiolch i aelodau Plaid Cymru yng Ngheredigion am roi eu ffydd ynof unwaith eto, ac edrychaf ymlaen at gyflwyno fy achos i gael fy ailethol o flaen bobl Ceredigion yn 2021.’
Dywedodd Ben Lake AS:
‘Llongyfarchiadau i Elin Jones ar gael ei hail-ddewis i sefyll etholiad yn 2021.
‘Bu Elin yn rhan allweddol o fy llwyddiant yn etholiad San Steffan yn 2017, mae ei gwybodaeth a'i dealltwriaeth o anghenion cymunedau yng Ngheredigion yn ddiguro. Mae hi wedi bod, ac yn parhau i fod yn AC gwych i Geredigion. Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda hi er budd cymunedau ym mhob rhan o'n hetholaeth.’