Democratiaeth yng Nghymru
Sgwrs a thrafodaeth yng nghwmni Dr Anwen Elias,
Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Prifysgol Aberystwyth
Neuadd Caerwedros, 7.30yh, nos Iau, 22 Mai 2025.
Mae Dr Anwen Elias yn Gyd-Gyfarwyddwr, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, yn Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth.
Dr Anwen Elias yw Cadeirydd Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru ar Arloesi Democrataidd yng Nghymru. Bydd yn rhoi gorolwg i ni o’r newidiadau arfaethedig sydd ar droed yn ein trefniadau etholiadol o lefel San Steffan hyd at gynghorau tref a chymuned. Bydd hefyd yn rhoi gorolwg i ni o waith y Grŵp Cynghori gan amlygu datblygiadau posib ar gyfer y dyfodol.
Caerwedros
Llandysul , Ceredigion SA44 6BS
United Kingdom
Map Google a chyfarwyddiadau
Dangos 1 ymateb