AS Ceredigion yn cefnogi ymgyrch gofal dementia Cymdeithas Alzheimercare campaign

Ben_Lake_-_Fix_Dementia_Care.jpg

Ar ddydd Mawrth 9 Gorffennaf, ymunodd Ben Lake, AS Ceredigion, â 120 o Aelodau Seneddol eraill mewn arddangosfa ffotograffiaeth Cymdeithas Alzheimer oedd yn tynnu sylw at y draul ddynol yn yr argyfwng gofal dementia.

Mae'r arddangosfa ffotograffau, 'Dementia Care: The Crisis Behind Closed Doors', yn darlunio’r draul ddynol o fewn y system gofal sy'n annheg, anghynaladwy ac sydd angen ei diwygio ar frys ledled y wlad.

Yn yr arddangosfa, cyfarfu Seneddwyr â phobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddementia a chlywed sut mae’r clefyd wedi effeithio arnynt hwy a'u teuluoedd.

Mae Cymdeithas Alzheimer yn galw am Gronfa Dementia yn yr Adolygiad o Wariant sydd ar y gweill er mwyn dod â'r gosb dementia i ben, gan ddod â thegwch i'r system a gwella ansawdd gofal.

Wrth ymateb i ddigwyddiad Cymdeithas Alzheimer, dywedodd Ben Lake: “Rwy'n falch o allu cymryd safiad gyda’r bobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia ac i ddadlau dros gael mwy o arian ar gyfer gofal dementia yn yr adolygiad gwariant sydd i ddod. Bydd gan un filiwn o bobl ddementia erbyn 2021 ac mae'n hanfodol ein bod yn gallu darparu gofal dementia o ansawdd uchel i bawb sydd ei angen.”

Dywedodd Sally Copley, Cyfarwyddwr Polisi, Ymgyrchoedd a Phartneriaethau Cymdeithas Alzheimer: “Mae'n wych gweld ASau ar draws y senedd yn dod at ei gilydd i cefnogi pobl â dementia ac i alw am ddiwygio.  Rydym yn annog y Prif Weinidog nesaf i wneud mynd i'r afael â'r argyfwng dementia yn flaenoriaeth frys.  Rhaid delio â’r anghyfiawnder i’r bobl sy'n brwydro i gael y gofal sydd wir angen arnynt, tra ar yr un pryd yn brwydro yn erbyn effeithiau dinistriol dementia. Rhaid i ni Gywiro Gofal Dementia.”

Mae’r Cymdeithas Alzheimer yma ar gyfer unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan ddementia. Am wybodaeth a chefnogaeth, ffoniwch y Llinell Gymorth Genedlaethol ar Ddementia ar 0300 222 1122 neu ewch i alzheimers.org.uk.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.