Ben Lake AS yn cefnogi’r Alzheimer’s Society yn ystod Dementia Action Week

Fel rhan o Dementia Action Week (15-21 Mai) bu Ben Lake AS mewn derbyniad seneddol a defnwyd gan yr Alzheimer’s Soceity lle dysgodd nad yw GIG Cymru, yn wahanol i Loegr, yn cyhoeddi cyfradd diagnosis dementia.

Mae Ben Lake AS wedi cynnig ei gefnogaeth i ymgyrch Dementia Action Week yr elusen am bwysigrwydd diagnosis dementia. Mae’r arwyddiad “It’s not called getting old, it’s called getting ill” yn annog pobl sy’n poeni am eu cof neu gof anwyliaid, i gael cefnogaeth i gael diagnosis drwy ddefnyddio’r ‘rhestr symptomau’. Mae hwn ar gael ar yr hwb gwefan neu ar www.alzheimers.org.uk/memoryloss.

Mae Ben Lake AS, yn ymuno â’r Alzheimer’s Society i alw at GIG Cymru i sicrhau bod data diagnosis dementia cynhwysfawr yn cael ei gasglu a’i gyhoeddi’n ganolog ar lefel genedlaethol fel bod perfformiad Cymru yn gallu cael ei gymharu gyda rhannau eraill o’r DU.

Dywedodd Ben Lake AS: Mae tua 50,00 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia ond does dim ffordd i ni wybod pa gyfartaledd sydd wedi derbyn diagnosis am y cyflwr. Mae pawb sy’n byw gyda dementia yn haeddu diagnosis cywir, amserol o ansawdd uchel er mwyn iddynt dderbyn y gofal a’r gefnogaeth angenrheidiol, a pharatoi ar gyfer y dyfodol. Bydd pobl â dementia yn elw o ddata cynhwysfawr, a bydd yn galluogi GIG Cymru i baratoi adnoddau yn fwy effeithiol.

Dywedodd James White, Pennaeth National Influencing yr Alzheimer’s Society, “Rydym yn diolch i Ben Lake AS am gwrdd â ni, ac am ddangos ei gefnogaeth i’r Dementia Action Week.

“Yn Lloegr, syrthiodd y gyfradd ddiagnosis yn is na’r uchelgais cenedlaethol yn ystod y pandemig, ac mae wedi aros yn agos i 62% ers hynny. Mae mwy na 30,000 o bobl wedi methu cael diagnosis yn ystod y cyfnod yma.

“Credwn ei bod yn well gwybod – mae 9 allan o 10 person wedi dweud wrthym iddynt fanteisio o gael diagnosis fel eu bod yn gallu cael triniaeth a chyngor a hefyd paratoi at y dyfodol.

“Yng Nghymru, does dim syniad gyda ni beth yw maint y sialens diagnosis, felly mae angen data cynhwysfawr lleol a chenedlaethol cyn gynted â phosib”

I dderbyn cefnogaeth a gwybodaeth am dementia ewch i alzheimers.org.uk/memoryloss neu ffoniwch yr Alzheimer’s Society ar 0333 150 3456.


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2023-05-25 10:08:31 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.