Ddydd Gwener diwethaf, cyflwynwyd Deiseb Heddwch Merched Talgarreg 2023 i Ben Lake AS ac Elin Jones AS, yn galw am heddwch yn Gaza ac i anrhydeddu cof gwragedd y pentref fu’n gwneud yr un gwaith ganrif yn ôl.
Ym 1923 ychwanegodd 81 o fenywod Talgarreg eu henwau at Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru, a lofnodwyd gan gyfanswm o 390,296 o ferched Cymru. Roedd y ddeiseb yn rhan o ymgyrch gan Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru i sicrhau bod menywod yr Unol Daleithiau yn clywed lleisiau menywod Cymru i gyd-weithio dros fyd heb ryfel. Fe gludwyd y ddeiseb, mae’n debyg oedd tua 7 milltir o hyd, i’r Amerig mewn cist dderw gan Annie Hughes-Griffiths, Mary Ellis, Elined Prys, a Gladys Thomas, lle y'i cyflwynwyd yn mis Chwefror 1924 i Arlywydd America yn Washington. Yn Ebrill 2023 dychwelyd y ddeiseb i Lyfrgell Cenedlaethol Cymru yn Aberystwyth, ac mae modd gweld y ddeiseb arlein.
Wedi eu hysgogi gan ymdrechion merched Talgarreg yn 1923, ac wedi eu dychryn gan olygfeydd o ddioddefaint erchyll merched a phlant yn Gaza, aeth Sian Wyn Siencyn ac Enfys Llwyd i ddechrau deiseb newydd yn 2023. Casglwyd dros 115 o lofnodion menywod o Dalgarreg yn galw am gadoediad ar unwaith yn Gaza.
Dywedodd Ben Lake AS: “Mae’n bleser derbyn y ddeiseb yma yn galw am gadoediad yn Gaza. Rydym i gyd wedi ein heffeithio gan y dioddefaint sydd i’w gael yno, a byddai’n mynd ati i gyflwyno’r ddeiseb i Rishi Sunak, y Prif Weinidog.”
Dywedodd Elin Jones AS: “Diolch i Sian ac Enfys am fynd ati i sicrhau bod llais menywod Talgarreg i’w glywed yn glir. Mi rydym i gyd yn dyheu am fyd heb ryfel. Roedd yn hynod ddiddorol clywed cysylltiadau teuluol Sian ac Enfys gyda rai o’r menywod wnaeth lofnodi’r ddeiseb yn 1923, ac mae’n deyrnged addas iawn iddynt.”
Dangos 1 ymateb