Mae ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion, Elin Jones, wedi cyflwyno'r syniad beiddgar o gyflwyno ddeddfwriaeth ar ba wasanaethau sydd i fod i gael eu cynnig mewn ysbytai cyffredinol megis Bronglais.
Mae Elin wedi bod yn flaengar iawn yn ei hymdrech i sicrhau dyfodol yr ystyby gyffredinol hanfodol hon yn Aberystwyth, gan gweithio gyda doctoriaid ac ymgyrchwyr lleol i berswadio'r Llywodraeth i roi stop ar ganoli popeth i Gaerfyrddin.
Yn ogystal a hybu polisiau positif ym maes recriwtio staff a gofal am ddim i’r henoed, mae Elin wedi ymrwymo i gynnig sicrwydd i bobol am ddyfodol eu hysbyty lleol.
Dywedodd Elin;
“Mae pawb yn deall yr angen am ganolfannau arbenigol ond mae hefyd angen sicrwydd ynglyn a pha wasanaethau sydd ar gael mewn ysbytai cyffredinol megis Bronglais.
Ychwanegodd, “Mae manifesto Plaid Cymru yn ymrwymo i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cyrraedd gwasanaethau hanfodol o fewn yr awr. Mae hyn yn golygu gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a phopeth sydd yn gysylltiedig a hyn. Rhaid hefyd cael llawdriniaethau, a gwasanaethau fel gofal y galon a mamolaeth.
“Rwyf wedi brwydro dros ysbyty Bronglais dros y blynyddoedd. Mi fyddai deddfwriaethu yn sicrhau ei dyfodol.