Dathlu penblwydd yr Urdd yn 100 oed!

Yr wythnos yma mae’r Urdd yn dathlu ei phenblwydd yn 100 oed! Mae Cymru gyfan wedi elwa’n fawr o’r sefydliad sydd nid yn unig wedi amddiffyn yr iaith, ond sydd hefyd wedi rhoi atgofion melys iawn i nifer fawr o bobl.

Ni ellir mesur cyfraniad y sefydliad i bobl ifanc y genedl. O oedran ifanc iawn, mae’r Urdd yn rhoi cyfle i blant fagu’r sgiliau a’r hyder sydd angen i berfformio ar lwyfan, ac mae nifer wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae clybiau a chystadlaethau chwaraeon yn rhoi cyfleoedd i ymarfer corff a chystadlu ar lefelau lleol a chenedlaethol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ers ei sefydliad yn 1932, mae Gwersyll Llangrannog yma yng Ngheredigion wedi croesawu miloedd o bobl ifanc Cymru i fwynhau ei chyfleusterau, i brofi gweithgareddau newydd, i fagu annibynniaeth, ac i wneud ffrindiau newydd i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â derbyn ymwelwyr, mae’r gwersyll hefyd yn gyflogwr pwysig yng Ngheredigion.

Yr wythnos yma mae’r Urdd wedi dechrau’r dathlu gyda pharti mawr rhithiol, ac mae yna galendar o weithgareddau wedi ei chynllunio ar gyfer y flwyddyn sy’n cynnwys twrnameintiai, gweithdai celf mewn ysgolion, a hyd yn oed cyfres deledu, i enwi ond rhai. Mae’r Urdd hefyd yn bwriadu anfon ei Neges Ewyllus Da dros y byd.


Dywedodd Elin Jones AS: ‘Un o fy atgofion melysaf o Eisteddfod yr Urdd oedd ennill cystadleuath Côr Adran dan 15 gyda Adran Llambed o dan arweiniad Twynog Davies, ac wrth gwrs y profiad o fynd am wythnos i wersylloedd Llangrannog a Glanllyn. Nes ymlaen bum i hefyd yn gweithio yng nghegin gwersyll Llangrannog pan oeddwn yn fyfyrwraig. Profiadau sy’n aros yn y cof am oes. Mae’r Urdd wedi darparu ystod eang iawn o gyfleoedd i gymaint o bobl ifanc dros y cenedlaethau.

Llongyfarchiadau gwresog i’r mudiad wrth iddi ddathlu ei canmlwyddiant, ac am fod wastad mor barod i fentro a moderneiddio. Diolch yn fawr i bob un o’r rheini sydd wedi, ac sydd yn, ymroi o’i hamser a’i hegni i sicrhau bod cenedlaethau o blant yn elwa hefyd.’


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Newyddion 2022-01-25 12:43:30 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.