Ym mis Hydref 2023, penderfynodd Llywodraeth Cymru nad oeddynt am ariannu gwasanaeth trafnidiaeth bws cyhoeddus y Bwcabws rhagor, a daethant a'r gwasanaeth i ben in ddi-rybudd. O ganlyniad roedd nifer o drigolion y sir oedd yn llwyr ddibynnol ar y Bwcabws heb ffordd o gyrraedd apwyntiadau meddygol, rhai heb modd i siopa, rhai yn methu teithio i'r gwaith, a nifer wedi eu ynysu a heb modd i gymdeithasu o gwbl.
Yn wreiddiol dechreuwyd y Bwcabws fel gwasanaeth 'yn ôl y galw' i wasanaethu rhannau o dde'r sir oedd heb wasanaeth bws, er mwyn creu cysylltiadiau at prif wasanaethau cyhoeddus eraill. Ond roedd yn boblogaidd iawn, a fe droiodd mewn i wasanaeth mwy rheolaidd yn raddol.
Ar ôl cynnal cyfarfod cyhoeddus yn Llandysul gyda defnyddwyr a chefnogwyr y Bwcabus i glywed eu ymateb, roedd yn amlwg i Elin fod angen ceisio dod o hyd i ddatrysiad mwy cynaliadwy, a fu dechre trafod syniad gyda sefydliad Dolen Teifi, cwmni trafnidiaeth cymunedol yn Llandysul oedd eisoes yn gwneud gwaith tebyg.
Daeth datrysiad posib i law, a fu modd i Elin gyflwyno'r cynnig i Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Llwyddwyd i sicrhau digon o gyllid i gynnal cynllun beilot o wasanaeth bws cymunedol newydd.
Y brosiect peilot
Mae Dolen Teifi wedi llwyddo i sicrhau dau fws mini, 17 sedd yr un ar gyfer y gwasanaeth. Mae un bws ar gyfer Llambed a'r ardal, a gobeithio bydd yr ail fws yn gwasanaethu wardiau Llandysul, Llandyfriog, Beulah a Llangoedmor. Mae hefyd modd i grwpiau cymunedol logi'r bws gyda'r hwyr ac ar benwythnosau.
Yn ystod mis Hydref, cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus ar gyfer y sawl oedd am glywed mwy am y cynllun newydd, i adnabod grwpiau o fewn y gymuned fyddai yn gallu arwain ar ddarparu'r gwasanaeth, ac i gynllunio teithiau fyddai o ddefnydd i drigolion y gymuned.
Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth cymunedol, a sut i'w ddefnyddio, ewch i: Dolen Teifi Community Transport - Dolen Teifi - Trafnidiaeth i Bawb neu ffoniwch 01559 362403
Dangos 1 ymateb