Mae Ben Lake AS yn annog ffermwyr llaeth ledled Ceredigion i ymateb i Ymgynghoriad Cytundebau Llaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r Ymgynghoriad ar Gytundebau Llaeth yn ymgynghoriad ar y cyd y cytunwyd arno gan bob un o'r pedair Llywodraeth a'r llywodraethau datganoledig yn y DU, sy'n ymgynghori ar reoliadau ar gytundebau llaeth rhwng ffermwyr a phroseswyr er mwyn mynd i'r afael â phŵer bargeinio, telerau cytundebau annheg neu aneglur, ymddiriedaeth a thryloywder yn y gadwyn gyflenwi.
Ysgogwyd yr ymgynghoriad gan dystiolaeth ac argymhellion adolygiad annibynnol Dyfarnwr y Gadwyn Groser (Grocery Chain Adjudicator - GCA). Tynnodd yr adolygiad sylw at y pwysau annheg a osodwyd ar brif gynhyrchwyr; er enghraifft, drwy delerau cytundeb anffafriol a gostwng prisiau ar fyr rybudd a manylebau. Mae'r arferion hyn yn cyfyngu ar allu ffermwyr llaeth i gyllidebu'n effeithiol a rheoli prisiau cyfnewidiol. Nododd yr adolygiad broblemau gyda chydbwysedd pŵer bargeinio yn y gadwyn gyflenwi bwydydd.
Anogir ffermwyr i gyflwyno eu barn i'r ymgynghoriad cyn y dyddiad cau ar 15ed Medi 2020.
Dywedodd Ben Lake AS:
"Mae'r amharu a fu ar y sector llaeth oherwydd Covid-19 wedi tynnu sylw at yr anghydbwysedd yn y ffordd y mae risg yn cael ei rhannu ar draws cadwyni cyflenwi. Mae'r ddadl ar reoleiddio cytundebau llaeth wedi llusgo ers tro byd yn y DU, ond dylai profiadau cynhyrchwyr llaeth yn ystod y pandemig hwn fod yn ysgogiad ar gyfer diwygio brys.
"Hoffwn weld rheoleiddio hyblyg ac arloesol sydd nid yn unig yn darparu telerau teg i ffermwyr, ond yn cydbwyso risg yn deg rhwng ffermwyr a phrynwyr. Byddai hyn yn sicrhau sefyllfa lawer mwy cynaliadwy i'n ffermwyr llaeth yn yr hirdymor.
"Mae'r Ymgynghoriad ar Gytundebau Llaeth yn rhoi cyfle i sicrhau y cytunir ar brisiau, mecanweithiau prisio a'r holl delerau cysylltiedig rhwng ffermwyr a phroseswyr drwy negodi rhydd ac na ellir eu hamrywio heb ddod i gytundeb. Rwy'n annog pob ffermwr llaeth yng Ngheredigion i ymateb i'r ymgynghoriad hwn i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed."