Dafydd Llywelyn yn lansio ei ymgyrch i gael ei ailethol yn Gomisiynydd Heddlu

Dafydd_Llywelyn_Re-election_Campaign.jpg

Mewn datganiad heddiw cyhoeddodd Dafydd Llywelyn yn swyddogol ei fwriad i gael ei ailethol fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu ardal Heddlu Dyfed Powys.  

Cafodd Dafydd Llywelyn ei ethol yn Gomisiynydd yr Heddlu yn 2016 ac yn ystod ei dymor o 4 blynedd yn y swydd mae  wedi llwyddo i gynyddu nifer y staff a swyddogion, ailgyflwyno system CCTV fodern ar draws yr Heddlu a chynnal cyfraddau trethi isel sydd gyda’r isaf yng Nghymru.

“Rwy’n gobeithio y bydd y cyhoedd yn fy nghefnogi am dymor arall yn y swydd er mwyn i mi fedru cwblhau yr ailadeiladu rwyf wedi ei ddechrau," meddai Dafydd Llywelyn. "Rwy’ wedi sicrhau bod mwy o swyddogion yr Heddlu a staff ar gael i’r Prif Gwnstabl a bydd hyn yn parhau os caf fy ailethol.”

“Rwy’n hynod o falch o’r system CCTV newydd, fodern sy’n ymestyn ar draws 20 o drefi gyda 155 o gameráu yn cael eu monitro ym Mhencadlys yr Heddlu, mae’r system wedi bod yn ganolog wrth ddod o hyd ac atal trosedd a gwella diogelwch y cyhoedd.”

Fel Comisiynydd yr Heddlu mae Dafydd Llywelyn wedi rhoi blaenoriaeth benodol i fuddsoddi mewn Pobl Ifanc, mynd i’r afael â Thrais yn y Cartref a lleihau ail-droseddu.  Mae wedi darparu £720,000 tuag at ddarpariaeth Gwasanaethau Ieuenctid oddi mewn i ardaloedd y 4 Awdurdod Unedol ac mae hefyd wedi ariannu clybiau ieuenctid a gweithgareddau ymyrraeth er mwyn ailgyfeirio pobl ifanc rhag troseddu.

Dywedodd Dafydd Llywelyn “y byddai tymor arall fel Comisiynydd yr Heddlu yn caniatáu iddo weld ei holl waith called yn dwyn ffrwyth, rydym wedi sefydlu diwylliant o ddatrys problemau ac atal trosedd, ond byddai 4 blynedd arall yn sicrhau trawsnewid positif pellach.  Rwy’ wedi gweithio’n ddiflino yn gwrando ar gymunedau ac yn adeiladu perthynas gref gyda phartneriaid allweddol a bydd hyn yn parhau os caf fy ailethol.  Bydd arian ar gael ar gyfer ein timau datrys problemau Plismona Ardal er mwyn lleihau ac atal trosedd, a byddaf yn rhoi pwyslais ar wella gwasanaethau i ddioddefwyr sydd yn ganolog i’r sefydliad.”

Wrth fwrw golwg ar dirlun newidiol trosedd pwysleisiodd Dafydd Llywelyn y modd y mae wedi buddsoddi mewn technoleg ac adnoddau sy'n ymwneud a throseddu arlein yn ogystal â chael adnoddau i ddelio â Llinellau Sirol.  

Ychwanegodd Dafydd Llywelyn: “Mae Llinellau Sirol yn ffenomenon rydym wedi dod yn rhy gyfarwydd o lawer â chlywed amdanynt, a dyna pam fy mod wedi darparu adnoddau ychwanegol ar gfyer swyddogion arbenigol i daclo Llinellau Cyffuriau sydd wedi profi llwyddiannau mawr gyda nifer o Grwpïau Trosedd Cyfundrefnol yn gael eu harestio gan yr Heddlu.  Yn sgîl y gweithredu hyn rydym wedi llwyddo i gyfyngu effaith trais Llinellau Sirol oddi mewn i ardal Dyfed Powys.”

Cynhelir etholiadau Comisiynydd yr Heddlu ar ddydd Iau, 7 Mai 2020 a Dafydd Llywelyn yw’r ymgeisydd cyntaf i gyhoeddi ei fwriad i sefyll.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.