Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i wella gofal i gleifion canser yng Nghymru. Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones fod cleifion yng Nghymru ar eu colled ar hyn o bryd oherwydd amseroedd aros rhy hir yng Nghymru am brofion diagnostig sylfaenol, ac oherwydd loteri cod post am rai cyffuriau a thriniaethau.
Mae Plaid Cymru wedi gosod allan eu cynlluniau am Gontract Canser a fydd yn gwneud y canlynol:
· Lleihau amseroedd aros – i osod targed o 95% o gleifion yn cael diagnosis neu ryddhad ymhen 28 diwrnod trwy sefydlu tair canolfan ddiagnostaidd unswydd ar hyd a lled Cymru.
· Sefydlu Cronfa Triniaethau Newydd i ganiatáu mynediad at feddyginiaethau newydd ar sail yr hyn mae eich meddyg yn ragnodi, nid ar sail eich cod post.
· Rhoi cefnogaeth unigol gan nyrsys arbenigol i bob claf cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth.
Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones:
“Mae pobl yng Nghymru yr amheuir fod canser arnynt yn wynebu rhai o’r amseroedd aros hwyaf yn y DG gyfan, maent weithiau yn methu cael cyffuriau sydd ar gael mewn mannau eraill, ac yn wynebu aros diangen am sgrinio neu ddiagnosis. Mae Plaid Cymru wedi gosod allan ein cynlluniau i wella gofal i gleifion canser. Bydd Contract Canser Plaid Cymru yn targedu’r problemau hyn, gan gyflymu diagnosis, rhoi mwy o gefnogaeth i gleifion trwy holl hynt eu clefyd, ac ehangu mynediad at gyffuriau a thriniaethau newydd. Mae ymdopi gyda diagnosis o ganser yn ddigon anodd ar y gorau, a bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu i wella gofal i gleifion, a lleihau’r straen hwnnw.”
Gallwch ddarllen blog Elin ar y Cytundeb Canser yma.