ASau Ceredigion yn croesawu'r cyhoeddiad am gynllun peilot band eang newydd i Geredigion

franck-v-uWaRsN-CqY0-unsplash.jpg

Mae cynllun Cronfa Uwchraddio Band Eang Llywodraeth y DU wedi lansio'r wythnos hon i helpu busnesau, gweithwyr a chymunedau cefn gwlad i elwa ar yr holl fanteision sy'n gysylltiedig â chysylltiadau rhyngrwyd cyflymach a mwy dibynadwy. Mae Ceredigion yn un o saith sir ledled y DU a ddewiswyd fel rhan o'r cynllun peilot band eang hwn a lansiwyd gan Lywodraeth y DU.

Gall trigolion neu fusnesau gwledig yng Ngheredigion fod yn gymwys am daleb i gefnogi cost band eang gallu-gigabit yn eich ardal. Mae cysylltiadau band eang gallu-gigabit yn cynnig y cyflymder cyflymaf a mwyaf dibynadwy sydd ar gael, gan wneud pethau fel ffrydio ffilmiau, lawr lwytho ffeiliau, a galwadau fideo yn llawer haws.

Bydd gan safleoedd gwledig â chyflymder band eang o lai na 100Mbps hawl i gael taleb gwerth £1,500 y cartref tra gall busnesau bach a chanolig gael hyd at £3,500 i gefnogi'r gost o osod cysylltiadau cyflym a dibynadwy newydd. Dim ond pan gânt eu defnyddio mewn prosiectau grŵp y mae cyllid ar gael a gall grwpiau fod yn gymysgedd o drigolion a busnesau; dim ond trigolion neu dim ond busnesau.

Bydd rhai safleoedd a busnesau ledled Ceredigion hefyd yn gallu manteisio ar gynllun talebau atodol Llywodraeth Cymru, gan fynd â'r arian ar gyfer safleoedd unigol i hyd at £3,000 a £7,000 ar gyfer busnesau.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd Ben Lake AS:

"Nid moethusrwydd yw band eang cyflym a dibynadwy i gartrefi a busnesau lleol, ond mae'n hanfodol. Mae'n anghenraid i'n busnesau lleol ac i'r rheini mewn pentrefi ynysig i barhau'n gysylltiedig. Mae band eang gwael wedi bod yn broblem sydd wedi poeni Ceredigion ers blynyddoedd lawer, gyda lefelau gwahanol o wasanaeth ar draws y sir.

"Yr wyf wedi ymgyrchu'n ddi-baid ar y mater hwn, gan ei godi dro ar ôl tro gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.  Yr wyf felly’n croesawu'r cyhoeddiad y bydd adeiladau ledled Ceredigion yn gallu manteisio ar gynllun peilot y Gronfa Uwchraddio Band Eang sydd newydd gael ei lansio. "

Ychwanegodd Elin Jones AS:

"Rwy'n annog pob safle a busnes sydd yn methu â chael mynediad at fand eang cyflym ar hyn o bryd i fanteisio ar y cyllid ychwanegol hwn. Er fy mod yn gobeithio gweld cynnydd cyflym a sylweddol dros y misoedd nesaf mewn ymateb i'r cynllun hwn, mae'n rhaid i ni barhau i roi pwysau ar BT, Openreach, Broadband Delivery UK a phob lefel o Lywodraeth i sicrhau band eang cyflym llawn yng Ngheredigion. Mae hynny'n golygu parhau i gyflwyno band eang cyflym iawn i bob cartref, gan gynnwys y rhai mewn ardaloedd gwledig anodd eu cyrraedd. "

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.