Cyhoeddi cyllid ar gyfer trafnidiaeth cymunedol

Yr wythnos yma, tra’n gosod y cyllid ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo arian tuag at ddatblygu syniad trafnidiaeth cymunedol yng nghorllewin Cymru.

Bwriad y Llywodraeth drwy’r ymrwymiad cychwynnol yma o £185,000 yw i gefnogi datblygiad gwasanaeth newydd fydd yn darparu’r un gwasanaeth bws i Sir Gaerfyrddin a Cheredigion a’r hyn roedd y Bwcabws yn gwneud. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i adolygu a darparu cefnogaeth ychwanegol yn 2024 a 2025 os oes angen, wrth i’r cynllun ddatblygu.

Mae’r ymrwymiad yma nawr yn golygu gall Dolen Teifi ddatlygu ei gynlluniau cychwynnol ac edrych i ddarparu gwasanaeth gobeithio i rannau o dde Ceredigion mewn ac o gwmpas i Landysul a Llanbedr Pont Steffan, a’r ardaloedd hynny roedd y Bwcabus yn gwasanaethu.

Dywedodd Elin Jones AS:  “Rydym ni’n ddiolchgar iawn i ymroddiad Dolen Teifi am geisio datblygu model trafnidiaeth amgen i ardaloedd mwyaf gwledig ein sir, sydd wedi bod heb wasanaeth y Bwcabus ers mis Hydref. Tra fydd angen ychydig mwy o amser i ddatblygu’r cynlluniau ymhellach cyn bod ganddom wasanaeth yn ei le, mae’r cefnogaeth ariannol yma gan y Llywodraeth yn gam positif iawn ymlaen tuag at ddatblygu trafnidiaeth cyhoeddus mwy cynaliadwy i drigolion Ceredigion.”  

Dywedodd Ben Lake AS: “Mae Elin a minnau wedi clywed yn uniongyrchol gan nifer o’n etholwyr sydd wedi bod heb drafnidiaeth cyhoeddus ers sawl mis bellach, ac rydym yn gwybod pa mor hanfodol roedd y gwasaneth Bwcabus iddynt. Rydym yn mawr obeithio bydd ganddom wasanaeth newydd bydd yn galluogi trigolion i gysylltu i wasanaethau bysiau ar y prif lwybrau, ac hefyd eu galluogi unwaith eto i gyrraedd eu tref agosaf ar fws. Byddwn yn eich diweddaru unwaith mae ganddom fwy o wybodaeth.”  


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Newyddion 2024-03-01 09:54:04 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.