Mae Elin Jones wedi rhoi croeso cynnes i'r cyhoeddiad gan Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru y bydd y gefnogaeth ariannol i wasanaeth bws y Cardi Bach yn parhau am flwyddyn arall.
Bu'r bws, sy'n gwasanaethu nifer o gymunedau arfordirol yn ardaloedd Cei Newydd, Aberporth a Gwbert, o dan fygythiad yn 2014 wedi i arian Ewropeaidd ddod i ben. Ond yn dilyn ymgyrch gan bobl leol a busnesau twristiaeth, ynghyd ag Elin Jones AC, camodd Llywodraeth Cymru fewn gyda chyllid. Bydd hyn yn parhau yn 2016-17.
Dywedodd Elin Jones, AC Ceredigion;
"Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gydnabod pwysigrwydd gwasanaeth bws y Cardi Bach, a bod y Gweinidog wedi adnewyddu'r gefnogaeth ariannol.
"Dyw cymunedau fel Gwbert, Llangrannog a Chwmtydu ddim yn cael gwasanaeth da gan fysiau eraill, felly mae'r Cardi Bach yn bwysig iawn i bobl leol. Hefyd mae'n hanfodol i dwristiaeth, gan ei fod yn helpu cerddwyr i deithio llwybr yr arfordir.
"Mae trafnidiaeth gynaliadwy yn hollbwysig ar gyfer dyfodol Ceredigion."