Yr wythnos yma cyflwynodd Elin Jones AS adroddiad i Gyngor Sir Ceredigion yn nodi ardaloedd yng Ngheredigion ble mae cymunedau am weld newidiadau i’r cyfyngiadau cyflymder 20mya.
Yn gynharach eleni, gofynodd Elin Jones AS i bob Cyngor Cymuned yng Ngheredigion i ymateb i holiadur ynglŷn â effaith y newid i’r cyfyngiadau cyflymder 20mya ar eu cymuned. Yr wythnos yma, cyflwynwyd adroddiad o gasgliadau’r holiadur i Gyngor Sir Ceredigion, yn y gobaith gellir ei ddefnyddio i hysbysu’r adolygiad swyddogol o’r newid i gyfyngiadau cyflymder ledled Ceredigion.
Roedd yr holiadur yn gofyn i’r Cynghorau Cymuned ymateb i dri prif gwestiwn, gan gynnwys os oeddynt yn meddwl fod angen newid unrhyw ffyrdd 20mya n’ôl i 30mya. Yn ei hanfod mae’r adborth yn awgrymu taw dim ond mân newidiadau sydd angen mewn rhai ardaloedd penodol, yn ôl ein cynghorau cymuned, ac mae’r rhan fwyaf o’n cymunedau yn ddiolchgar am y lleihad mewn cyfyngiadau cyflymder, sy’n gwella diogelwch yn ein sir.
Ni nodwyd unrhyw newidiadau mawr yn ein prif drefi a phentrefi, ond nodwyd nifer o newidiadau ym mhentrefi mwy gwledig ein sir. Awgrymwyd newid union leoliad y cyfyngiad 20mya ym Miwla, Cribyn, Llangwyryfon, Pontrhydfendigaid, Bronant, Llangrannog, Brongest, Coedybryn a Rhydlewis; ac awgrymwyd gellir ymestyn yr 20mya yng Nghiliau Aeron.
Dywedodd Elin Jones AS: “Mae’r adroddiad yma’n nodi rhai awgrymiadau gwerthfawr gan ein cymunedau, a dwi’n gobeithio bydd y Cyngor Sir yn gallu defnyddio’r wybodaeth yma fel rhan o’r drafodaeth ar unrhyw newidiadau i’r cyfyngiad cyflymder 20mya, wrth iddo wneud yr adolygiad swyddogol gyda Llywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn obeithiol bydd modd achub ar bob cyfle i sicrhau fod Ceredigion yn manteisio o’r cymorth ariannol ychwanegol cyhoeddwyd gan y Gweinidog Trafndidiaeth newydd, Ken Skates MS, i weithredu unrhyw newidiadau sydd angen.
Nodwyd rhai sylwadau gan y Cynghorau Cymuned sy’n mynd ymhellach na’r newid o 30mya i 20mya, yn cynnig newidiadau gellir gwneud i wella diogelwch y ffordd ymhellach. Byddaf yn dilyn yr adolygiad yng Ngheredigion gyda chryn ddiddordeb, a byddai’n edrych i gynnal sgyrsiau pellach gyda’r awdurdodau perthnasol ar y materion eraill mae’r adroddiad wedi amlygu.”
Dangos 1 ymateb