Cyfarfod a drefnwyd gan Elin Jones a Ben Lake yn codi pryderon uniongyrchol gyda’r Gweinidog ac Openreach
Daeth cynulleidfa gref ynghyd i gyfarfod cyhoeddus a drefnwyd gan Elin Jones AC a Ben Lake AS yr wythnos hon yn Llanarth i alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar fand esng yng Ngheredigion. Mynychodd dros 150 o bobl y cyfarfod a chodwyd nifer o faterion yn ymwneud â band eang yn uniongyrchol gyda Julie James AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr Openreach.
Ymatebodd Julie James i nifer o gwestiynau o’r llawr yn ymwneud â diffyg argaeledd band eang drwy’r sir, sydd ar hyn o bryd gyda dim ond 77% wedi cysylltu i fand eang cyflym.
Dywedodd Elin Jones a fu’n cadeirio’r cyfarfod:
“Roeddwn yn falch iawn gweld Gweinidog y Llywodraeth sydd â chyfrifoldeb dros gyflwyno Band Eang trwy Gymru yn dod i Geredigion ac yn cwrdd ag etholwyr. Mae pobl yn teimlo fel eu bod wedi eu camarwain gan Openreach ar y mater hwn, felly, roeddwn yn falch iawn i weld cwestiynau yn cael eu gofyn yn ymwneud â busnesau a chartrefi sy’n ei chael yn anodd gyda chyflymder rhyngrwyd araf, neu mewn nifer o achosion dim cysylltiad â’r rhyngrwyd o gwbl.
“Roedd y materion unigol a godwyd yn cynnwys diffyg cysylltiad i ffermwyr, busnesau bach a phobl sy’n hawlio budd-daliadau anabledd, gyda’r rhain i gyd angen cyswllt diogel, sefydlog a dibynadwy.
“Trafodwyd materion ‘capasiti’ yng Ngheredigion hefyd, a chododd nifer o bobl faterion penodol gydag Openreach. Cafwyd trafodaeth hefyd ar ddulliau amgen gan ddarparwyr band eang lleol eraill.
“Rhoddodd y Gweinidog amlinelliad o gamau nesaf cyflwyno band eang a byddaf yn parhau i gyflwyno eu hachosion er mwyn sicrhau bod Ceredigion yn flaenoriaeth yn hyn.”