Mae Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, wedi pwyso ar Julie James AC, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth i weithredu’n chwim ar gyflwyno Band Llydan yng Ngheredigion.
Dangosodd ffigyrau a gyhoeddwyd y mis diwethaf gan Lywodraeth Cymru bod yna fwlch wedi ymddangos rhwng Ceredigion a gweddill Cymru wrth gyflwyno band llydan cyflym.
Cynhaliodd Elin Jones gyfarfod brys gyda’r Gweinidog yr wythnos ddiwethaf i drafod ffigyrau sy’n dangos bod Ceredigion yn 21eg ardal allan o’r 22 a ariennir gan Gyflymu Cymru, ac mai dim ond 60% o lefydd cymwys i dderbyn Band llydan cyflym iawn oedd wedi eu sefydlu erbyn Mehefin 2016, o’i gymharu â ffigyrau llawer yn uwch mewn ardaloedd gwledig eraill.
Dywedodd Elin Jones:
“Roeddwn yn falch i gwrdd â’r Gweinidog er mwyn pwysleisio’r pwysigrwydd a’r angen am fand llydan cyflym iawn i Geredigion. Nid yw’n iawn fod Ceredigion gymaint ar ei hôl gyda’r broses gyflwyno tra bod ardaloedd cymharol eraill fel Sir Benfro a Gwynedd wedi derbyn ffigwr mor uchel.
“Mae angen i Geredigion ddal i fyny gydag ardaloedd eraill yng Nghymru, ac felly er mwyn i hyn ddigwydd mae’r misoedd nesaf yn allweddol. Mae disgwyl i BT Openreach gyflwyno rhaglen cysylltiad ffibr i'r adeilad i nifer o ardaloedd sy’n dal i aros amdano yng Ngheredigion. Cytunodd y Gweinidog bod angen gwasanaethu Ceredigion yn well, ac rwy’n edrych ymlaen at weld datblygiad amlwg dros y misoedd nesaf.
Rwy’n dal i annog pobl sy’n profi anawsterau i gysylltu â fy swyddfa, er mwyn i mi fedru dwyn eu problemau unigol i sylw’r Gweinidog.