Cyfarfod Bwcabus

 

Dyma gyfle i drafod dyfodol cludiant cymunedol mewn ardaloedd gwledig gydag Elin Jones AS, Ben Lake AS, Dolen Teifi yn ogystal â chynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol.

Cawson newyddion syfrdanol gan y Gweinidog am ddiddymiad y gwasanaeth Fflecsi Bwcabus yn gyfan gwbl erbyn diwedd mis Hydref 2023.  Mae colli’r gwasanaeth hon yn peri gofid i lawer o deithwyr, yn enwedig pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig ac sy’n hollol ddibynnol ar y Bwcabus i gyrraedd apwyntiadau neu i siopa.

Gwahoddir ddefnyddwyr Fflecsi Bwcabus i gyfarfod ar Ddydd Iau 19eg o Hydref am 4pm i drafod y sefyllfa gydag Elin Jones, AS a Ben Lake, AS.  Fe fydd Rod Bowen o’r mudiad cludiant cymunedol, Dolen Teifi, yn ymuno yn ogystal â chynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol sy’n gweinyddu’r gwasanaeth.

Bwriad y cyfarfod yw i gasglu gwybodaeth gan ddefnyddwyr Bwcabus er mwyn gallu helpu cynllunio gwasanaethau addas i’r dyfodol.

Cyfarfod ‘hybrid’ fydd hon, ble bydd modd i chi ymuno mewn person yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul neu yn rhithiol ar-lein drwy  Teams.

I RSVP i'r cyfarfod neu i ymuno a'r cyfarfod, cliciwch yma.


Dangos 1 ymateb

  • Matt Adams
    published this page in Newyddion 2023-10-13 13:17:18 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.