Mae Elin Jones, AC Ceredigion, wedi cwrdd gyda chynghorwyr lleol a rhieni ac athrawon Ysgol y Drewen yng Nghwm Cou i drafod diogelwch cyfredol y disgyblion yno wrth iddynt gerdded drwy’r pentref.
Mae pentref Cwm Cou wedi ei leoli ar y briffordd o Lambed i Aberteifi i yrrwyr loriau sydd am osgoi pont Cenarth, ac yno mae yna gornel cuddiedig sydyn yn ogystal â phont gul ger yr ysgol.
Mae trigolion y pentref, yn ogystal â disgyblion yr ysgol a’u teuluoedd, wedi galw ar Gyngor Ceredigion i wella diogelwch yng Nghwm Cou eisoes, yn sgil achosion o or-yrru heibio’r ysgol tuag at y bont gul, lle bu bron sawl achos o fethiant agos i gerddwyr yn y pentref.
Dywedodd Elin Jones:
“Mae’n bryder mawr i mi bod y rhan wledig hon o Geredigion yn ymddangos fel petai’n fwy peryglus i bobl yn sgil diffyg ystyriaeth i gerddwyr nag yw i’r rheiny sydd yn byw mewn ardaloedd trefol.
“Rwyf nawr wedi galw ar Gyngor Ceredigion i ystyried rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch trigolion a cherddwyr yng Nghwm Cou, a rhoi ymrwymiad i gynllun cyfan i’r pentref cyn gynted â phosib.
“Mae’n dra phwysig bod gosod palmentydd a system ildio traffig fanwl ar y bont ger yr ysgol yn cael eu cynnwys yn hwn, gan eu bod yn allweddol i blant a rhieni sydd am sicrhau mynediad ddiogel i’r ysgol ac i gerddwyr sydd yn dymuno ymweld â’u cymdogion.
“Rwy’n ddyledus iawn i’r Cyng. Lyndon Lloyd am bledio’r achos hwn, yn ogystal â Chyngor Cymuned Beulah a holl staff, myfyrwyr, rhieni a llywodraethwyr Ysgol Drewen am eu gwaith caled. Rwy’n gyfan gwbl gefnogol i’r achos hwn, ac yn gobeithio y bydd Cyngor Ceredigion yn nodi hyn, ac yn rhoi sicrwydd i’r pentref o’r mesurau diogelwch sydd eu hangen arnynt.”
Dywedodd y Cyng. Lyndon Lloyd sydd wedi ymgyrchu dros yr achos:
“Ble arall yng Ngheredigion mae yna briffordd lle nad yw’r trigolion yn gallu cerdded o un pen i’r pentref i’r llall oherwydd cornel sydyn a phont gul beryglus? Mae’n hollol anghywir bod yn rhaid i rieni’r plant sydd yn mynychu’r ysgol gludo eu plant mewn ceir gan ei bod yn rhy beryglus iddynt gerdded.
“Mae’r Cyngor Sir yn datgan bod toriadau wedi arwain at fethiant i wella’r sefyllfa yma, ond mae trigolion a Chyngor Cymuned Beulah yn gofyn yn awr beth yw pris y perygl i drigolion sydd yn llythrennol beryglu eu bywydau bob dydd yn y pentref hwn.
“Mae trigolion Cwm Cou nawr yn haeddu sylw llawn yr awdurdod ar ôl i’w ceisiadau gael eu hanwybyddu am flynyddoedd.”