Cyngor Sir Ceredigion yn galw am Ddatganoli Ystad y Goron i Gymru

 

Ddoe (12 Rhagfyr), cefnogodd Cyngor Sir Ceredigion, sydd dan arweiniad Plaid Cymru, gynnig i ddatganoli Ystad y Goron ‘i gefnogi anghenion cymdeithasol Cymru’ fel ‘mater brys’.

Cafodd y cynnig, a gyflwynwyd gan Catrin M S Davies (Plaid Cymru), ei basio’n ddiwrthwynebiad a galwyd ar yr Arweinydd i bwyso ar Brif Weinidog Cymru i fynnu gweithredu ar unwaith gan Brif Weinidog y DU i drosglwyddo rheolaeth ar Ystâd y Goron i Gymru.

Mae Ystad y Goron, sy’n cynnwys 65% o welyau afonydd Cymru, traethau, a dros 50,000 erw o dir gwerth dros £853 miliwn, ar hyn o bryd yn cynhyrchu elw sylweddol sy’n llifo’n uniongyrchol i Drysorlys y DU a’r Teulu Brenhinol. Y llynedd, cofnododd yr Ystad yr elw mwyaf erioed, gyda chynnydd net o £658.1 miliwn, gan ddod â chyfanswm enillion i £1.1 biliwn. Yn 2024, amcangyfrifwyd bod yr adran o Ystad y Goron sydd eisoes wedi’i datganoli i Lywodraeth yr Alban wedi cynhyrchu tua £108.3 miliwn i’r coffrau cyhoeddus. Yn ôl arolwg barn diweddar gan YouGov, roedd 58% o ymatebwyr o blaid datganoli Ystad y Goron i Gymru. Ceredigion yw'r seithfed cyngor sir yng Nghymru i basio cynnig yn galw am ddatganoli Ystâd y Goron.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet, Catrin M S Davies:

Mae’r ffigurau’n dweud y cyfan. Gallai Cymru dderbyn tua £50 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol drwy ddatganoli Ystad y Goron. O ystyried yr heriau ariannol anferthol a’r cyllidebau tyn y mae cynghorau yn eu hwynebu, sydd yn eu tro yn dwysáu caledi i drigolion, does dim angen meddwl dwywaith am hyn. 

“Dylai adnoddau naturiol Cymru wasanaethu anghenion cymdeithasol ac economaidd pobl Cymru. Mae datganoli Ystâd y Goron yn gam angenrheidiol i sicrhau bod yr elw o’n tir, ein glannau a gwelyau ein hafonydd yn aros yng Nghymru er budd ein cymunedau, yn hytrach nag er budd San Steffan.”

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Williams:

Nid mater o ariannu tecach yn unig yw datganoli Ystad y Goron i Gymru; mae’n ffordd o sicrhau ein bod ni'n defnyddio'r adnoddau sydd gennym i fyn i'r afael â’n heriau a’n hanghenion unigryw. Gyda 60 milltir o arfordir, bydd Ceredigion yn elwa’n sylweddol o reolaeth dros asedau arfordirol Ystad y Goron, gan hyrwyddo cynaliadwyedd, adfywio economaidd, a mynd i'r afael â'n heriau gofal cymdeithasol dwys.

"Mae'r Alban eisoes wedi manteisio ar ddatganoli drwy ennill rheolaeth ar Ystad y Goron ers 2017, gan ganiatáu i'w phobl elwa'n uniongyrchol o'u hadnoddau naturiol. Mae'n hen bryd i Gymru ddilyn eu hesiampl a sicrhau bod ein cyllid o'r sector gyhoeddus yn adlewyrchu anghenion penodol ein cymunedau." 


Dangos 1 ymateb

  • Elain Roberts
    published this page in Newyddion 2024-12-16 16:24:54 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.