Ddoe, bu aelodau o Mencap Ceredigion yn y Senedd i lansio partneriaeth newydd rhwng ITV Cymru a Mencap Cymru, yn ystod Wythnos Anabledd Dysgu.
Nôd y bartneriaeth yw helpu i gael gwared ar rwystrau i bobl anabl sy'n ceisio gweithio yn y diwydiant Teledu a Darlledu. Drwy gydweithio mae’r ddwy sefydliad yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr i sicrhau bod pobl ag anabledd dysgu yn cael mwy o fynediad at gyfleoedd cyflogaeth.
Fel rhan o’r cynllun cynhaliwyd Diwrnodau Hyfforddiant Cyfryngau yn ITV Cymru Wales yn ddiweddar, ble roedd cyfle i aelodau o Mencap gael hyfforddiant yn uniongyrchol gan newyddiadurwyr a chriw ITV Cymru. Yna yn y lansiad yma yn y Senedd, cafodd rhai o ddarpar newyddiadurwyr y dyfodol o Mencap Cymru rannu eu profiadau mewn sesiwn holi ac ateb arbennig o dan gadeiryddiaeth Gohebydd Cenedlaethol ITV Cymru Wales Rob Osborne.
Dywedodd Elin Jones AS: ‘Roedd yn bleser cael croesawu aelodau bywiog a thalentog Mencap Ceredigion i’r Senedd ddoe. Mae angen dathlu’r bartneriaeth newydd yma a fydd yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth cyflogwyr o bwysigrwydd cyflogi gweithlu amrywiol, hefyd yn codi hyder a darparu chyfleoedd i’r sawl sy’n rhan o’r cynllun.’
Dangos 1 ymateb