Elin Jones AS yn croesawu gohurio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Mae Elin Jones AS yn croesawu cyhoeddiad y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros amaethyddiaeth bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn cael ei ohurio. Y Cynllun yma oedd y prif reswm bu’r gymuned amaeth yn prostestio’n gynharach eleni.

Cyhoeddod Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd Cabinet dros Newid i’r Hinsawdd a Materion Gwledig byddai cyfnod paratoi ar weithredu’r Cynllun nawr yn dechrau yn 2025, gyda’r cyfnod newid i’r cynllun yn dechrau o 2026.

Yn ystod y cyfnod yma mae’r Gweinidog yn bwriadu cynnal y drafodaethau sydd eu hangen gyda Phlaid Cymru, fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu, a gydag aelodau'r Ford Gron Weinidogol crewyd i adolygu materion ddaeth i’r amlwg yn yr ymgynghoriad, ac ar mannau ble mae angen mwy o waith ar y Cynllun.

Bydd y Ford Gron hefyd yn helpu i ddyfeisio dull talu addas, ynghyd ag unrhyw gynigion posibl eraill ac ychwanegol er mwyn atafaelu rhagor o  garbon o fewn yr SFS. Byddant hefyd yn defnyddio’r amser i gadarnhau data a fydd meddai’r Gweinidog, gydag adborth ffermwyr, yn rhoi darlun cywir o'r cynefinoedd a'r gorchudd coed ar bob fferm.

Dywedodd Elin Jones AS:  “Dwi’n croesawu’r gohuriad yma, fel bod modd adolygu a newid y Cynllun Ffermio Cynaliadwy i’w wneud yn gynllun mwy ymarferol a llai beichus i’n ffermwyr, ac er mwyn sicrhau ei fod yn cwrdd â’n dyhaead ni oll i ddatblygu bwyd, cynnal cymunedau gwledig, a lleihau’r effaith ar newid i’r hinsawdd.”


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Newyddion 2024-05-21 10:01:35 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.