Mae Elin Jones AS yn annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar wasanaeth gwibfws newydd fydd yn cysylltu gogledd a de Cymru. Bydd y gwibfws yn ychwanegiad da at wasanaethau bysiau cyfredol Ceredigion.
Bydd cynlluniau Trafnidiaeth Cymru ar gyfer gwasanaeth Gwibfws newydd TrawsCymru yn wasanaeth stop cyflym yn galw yn nhrefi a gorsafoedd rheilffordd allweddol rhwng Bangor a Chaerfyrddin, gydag arosfannau arfaethedig yn Aberystwyth, Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, a Llandysul.
Mae'r gwasanaeth newydd hwn wedi'i gynllunio i dorri amseroedd teithio rhwng y prif lleoliadau o tua 90 munud, o'i gymharu â'r opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus presennol.
Dywedodd Elin Jones AS: “Rwy’n croesawu’r ymgynghoriad hwn ac yn gobeithio y bydd pawb yng Ngheredigion yn achub ar y cyfle i ymateb iddo. Rwy’n falch bod cynlluniau i gynyddu ein gwasanaethau, i ddatblygu coridor trafnidiaeth gorllewin Cymru ymhellach fel rhan o baratoi ar gyfer dychwelyd y rhwydwaith rheilffordd ar hyd yr un coridor rhyw ddiwrnod. Mae angen amlwg hefyd i rai o’r gwasanaethau newydd fynd cyn belled â Chaerdydd, ac mae sicrhau bod y T1C o Aberystwyth i Gaerdydd yn parhau, a’r amserlen yn cael ei ymestyn, hefyd bwysig iawn i drigolion Ceredigion.”
* Ceir mwy o wybodaeth am yr ymgynghoriad sydd ar agor tan y 28 o Fawrth ar wefan Trafnidiaeth Cymru: Gwibfws Gogledd i Dde Cymru – Cynnig | Trafnidiaeth Cymru *
Dangos 1 ymateb