Wrth i ni agosáu at ddiwrnod rhyngwladol y merched, agorodd Elin Jones AS arddangosfa Monumental Welsh Women gan yr artist Meinir Mathias o Geredigion yn y Senedd.
Sefydliad dielw yw Monumental Welsh Women sy’n ymroddedig i gydnabod cyfraniad menywod i hanes a bywyd Cymru. Cenhadaeth y grŵp yw creu pum cerflun pump o ferched Cymreig go iawn yng Nghymru o fewn pum mlynedd. Mae pedwar eisoes wedi’u cyflawni’n llwyddiannus – cofeb yr eiconig Betty Campbell yng Nghaerdydd, cerflun hardd Elaine Morgan yn Aberpennar, cerflun dyrchafol Cranogwen yn Llangrannog, a cherflun trawiadol yr Arglwyddes Rhondda yng Nghasnewydd.
Portreadau gwreiddiol gan yr artist Meinir Mathias o Geredigion a llun yw’r arddangosfa yn y Senedd, i ddathlu’r pump menyw mae’r prosiect yn anrhydeddu.
Dywedodd Elin Jones AS: “Mae wedi bod yn anrhydedd i mi gefnogi’r prosiect gwych hwn dros y blynyddoedd, ac mae’r arddangosfa hon gan Meinir yn ffordd wych o ddathlu rhai o ferched gorau Cymru, a fu i bob un ohonynt wneud cyfraniad aruthrol i Gymru mewn nifer o ffyrdd. Yn ei gwaith, mae Meinir wedi llwyddo i gyfleu hanfod pob un o’r menywod mae’r prosiect yn eu coffáu, ac mae hyn yn amlygu i bob un ohonom etifeddiaeth y merched Cymreig eiconig hyn, a’r hyn y mae’n bosibl i bawb ei gyflawni, waeth beth fo’u cefndir.
Braf hefyd oedd croesawu rhai o aelodau’r pwyllgor lleol (yn y llun isod) a drefnodd gerflun Cranogwen yn Llangrannog i’r arddangosfa.”
Dangos 1 ymateb