Bydd Llywodraethau yn Llundain a Chaerdydd yn adolygu mesurau cyfyngiadau symud yr wythnos hon wrth iddynt fod yn ofynnol yn gyfreithiol i wneud hynny bob tair wythnos.
Wrth siarad ymlaen llaw ar unrhyw newidiadau mewn rheoliad mae AS Ceredigion yn annog camau pwyllog i Geredigion a’r holl ardaloedd.
Bydd Llywodraethau yn Llundain a Chaerdydd yn adolygu mesurau cyfyngiadau symud yr wythnos hon wrth iddynt fod yn ofynnol yn gyfreithiol i wneud hynny bob tair wythnos. Wrth siarad ymlaen llaw ar unrhyw newidiadau mewn rheoliad mae AS Ceredigion yn annog camau pwyllog i Geredigion a’r holl ardaloedd.
Dywedodd Elin Jones AS:
“Mae mesurau cyfyngiadau symud wedi diogelu Ceredigion a gorllewin Cymru rhag lledaeniad y feirws. Mae graddfeydd haint yn isel yn yr ardal hon ac mae angen i ni eu cadw felly.
“Fodd bynnag, ni allwn ganiatáu i benderfyniadau sydd efallai wedi eu seilio ar nifer o achosion Covid-19 mewn ysbytai yn Llundain osod amodau ar fesurau cyfyngiadau symud yng Ngheredigion.
“Efallai nad yw polisi ‘un maint i bawb’ bellach yn addas ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd, na hyd yn oed yng Nghymru gyfan.”
“Mae angen i bobl fod yn hyderus y bydd symud allan o gyfyngiadau 'lockdown' llawn yn cael ei wneud dros gyfnod o amser ac y byddwn yn symud cam wrth gam dim ond pan fydd amodau wedi eu gosod i gyfyngu'r feirws rhag atgyfodi a lledu.
“Rwy’ am weld cynnydd sylweddol mewn profi cymunedol yn lleol yng Ngheredigion a system olrhain cyswllt lawn yn weithredol cyn y byddwn yn symud o gyfyngiadau symud llawn.
“Gwn bod Cyngor Sir Ceredigion wedi datblygu ac wedi arbrofi dull olrhain cyswllt ac maent yn arwain y ffordd ar hyn yng Nghymru.
“Efallai mai mesurau rheoli lleol fydd y ffordd orau i ddelio â Choronafeirws yn y dyfodol os na fydd penderfyniadau'r DU yn adlewyrchu yn ddigonol y realiti yng Ngheredigion. Mae patrwm fel hyn o weithredu yn gweithio mewn ardaloedd lleol eraill yn y byd e.e. ardal Groningen yn yr Iseldiroedd.
“Byddwn yn symud ymlaen o gyfyngiadau symud, mae angen i hyn ddigwydd er lles ein cymunedau a’n heconomi. Ond mae angen i ni fod yn hyderus ein bod yn gwneud felly yn y ffordd gywir ac ar yr amser cywir. Mae’r modd y byddwn yn gwneud hyn, ac ar ba gyflymdra ac ar ba fesurau fydd yn eu lle yn mynd i ddeddfu pa mor llwyddiannus y byddwn wrth atal y feirws rhag lledu i’r dyfodol yng Ngheredigion.”