Mae Ben Lake AS Ceredigion yn cefnogi galwadau ar i'r Llywodraeth ddangos cefnogaeth i ferched WASPI sydd wedi cael eu heffeithio'n wael gan argyfwng y Coronafeirws.
Mae WASPI (Merched yn Erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth) yn annog y Llywodraeth i:
- Ganiatáu merched WASPI i dderbyn credyd pensiwn
- Ganiatáu i'r merched hynny fyddai wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth yn ystod y flwyddyn ariannol yma dderbyn eu pensiwn yn gynnar
Mae WASPI yn ymgyrchu ar ran llawer o'r 3.8 miliwn o ferched a anwyd yn y 1950au sydd wedi'u heffeithio gan y newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth, a ddaeth i rym drwy Ddeddf Pensiynau 1995 a 2011.
Mae'r haint Cornafeirws wedi effeithio'n anghyfartal ar ferched a anwyd yn 1950au sydd eisoes yn dioddef caledu enbyd, a nawr mewn sefyllfa fwy heriol fyth.
Dywedodd Ben Lake:
"Rwyf yn falch iawn fy mod i, ers rai blynyddoedd bellach, wedi cefnogi ymgyrch WASPI a'r merched a anwyd yn y 1950au sydd wedi'u trin mor anheg oherwydd y ffordd y deliodd y Llywodraeth â'r newid yn oed pensiwn y wladwriaeth.
"Mae'r newidiadau yma wedi achosi caledu mawr i lawer o ferched WASPI ac yn anffodus mae’r Coronafeirws a'r cyfyngiadau ar symud yn sgil hyn wedi gwneud y sefyllfa'n waeth.
"Dyna pam rwy’n ymuno â'r galwadau ar i'r Llywodraeth ddarparu cefnogaeth hanfodol i ferched WASPI nawr."