Angen mwy o gefnogaeth ar fusnesau bach

Header_busnesau_2.png

Yn ystod y tair wythnos ers i Lywodraethau’r DU a Chymru gyhoeddi cefnogaeth i fusnesau bach a busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden, mae staff Cyngor Sir Ceredigion wedi gweithio’n galed i weinyddu'r cynllun a thalu’r grantiau cyn gynted â phosib.

Mae eu hymdrechion wedi cael eu canmol gan AS ac AC Ceredigion sydd wedi diolch i’r staff am eu ‘hymdrech ryfeddol’ i ddosbarthu’r grantiau mor effeithlon.

Dywedodd Elin Jones AC:

“Hoffwn ddiolch i’r holl staff sydd wedi bod yn rhan o’r ymdrech ryfeddol yma.”

“Hoffwn hefyd ddiolch i’r perchnogion busnes am eu hamynedd a’u penderfyniad mewn amser y gwn sy’n anodd iddynt.”

Er bod y gefnogaeth a gyhoeddwyd gan Lywodraethau'r DU a Chymru wedi cael eu croesawu ar y cyfan, mae llawer o fusnesau bach, masnachwyr unigol a chwmnïau sy'n rhentu eu hadeiladau dal yn colli allan ar unrhyw fath o gefnogaeth o gronfeydd y wladwriaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r broses ymgeisio ar gyfer ei Chronfa Cadernid Economaidd heddiw (17 Ebrill), gyda’r nod o ddarparu cefnogaeth i fusnesau â phwysau llif arian, nad yw’r cynlluniau blaenorol yn mynd i’r afael â nhw. Fodd bynnag, daeth i’r amlwg bod nifer o fusnesau a masnachwyr unigol a fyddai’n disgwyl elwa o’r cynllun grant newydd ar gyfer microfusnesau yn cael eu hystyried yn anghymwys gan nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW. Bydd hyn yn cyfyngu'n sylweddol ar nifer y busnesau a'r masnachwyr unigol yng Ngheredigion sy'n gallu gwneud cais am arian.

Mae Ben Lake ac Elin Jones wedi mynegi pryder hefyd fod busnesau sydd wedi derbyn Grantiau Cymorth Busnes yn anghymwys i dderbyn cefnogaeth gan y Gronfa Cadernid Economaidd.

Mae Ben Lake AS ac Elin Jones AC wedi ysgrifennu at Ken Skates, Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru yn ei annog i ehangu meini prawf y Gronfa Cadernid Economaidd cyn gynted â phosib fel bod pob busnes yn gallu gwneud cais am gefnogaeth.

Dywedodd Ben Lake AS:

“Er fy mod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i sefydlu’r Gronfa Cadernid Economaidd, mae’n siomedig na fydd llawer o fusnesau yn fy etholaeth yn gallu elwa o’r cynllun gan nad ydyn nhw wedi cofrestru ar gyfer TAW.

“Mae sawl busnes ac unig fasnachwr sy'n anghymwys ar gyfer cymal microfusnes y Gronfa Cadernid Economaidd wedi cysylltu â mi yn bryderus am barhad eu busnes. Mae busnesau ar ymyl y dibyn ac i lawer nid oes sicrwydd heb gefnogaeth y llywodraeth.”

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried ehangu’r meini prawf ar gyfer y gronfa fel y gall pob busnes yng Ngheredigion dderbyn y gefnogaeth y mae’r Llywodraeth yn amlwg yn dymuno iddynt ei derbyn.”  

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.